Mae'r adnodd hwn yn addas i gefnogi cyrsiau Lefel 2 Amaethyddiaeth.
Y Sgerbwd
Swyddogaethau’r sgerbwd yw:
Diogelu’r organau hanfodol (e.e. yr ymennydd, yr ysgyfaint, y
galon)
Cynnal siâp neu ffurf y corff
Hwyluso symudiad y corff
Cynhyrchu celloedd gwaed
Storio mwynau
Strwythur y sgerbwd
Mae strwythur sylfaenol esgyrn a chymalau’r rhan fwyaf o
anifeiliaid yn debyg i’w gilydd, er eu bod wedi ymaddasu mewn
ffyrdd penodol i’w hamgylchedd.
Esgyrn
Mae esgyrn yn ddefnydd byw, ac maent yn cynnwys mwynau (calsiwm,
ffosfforws a magnesiwm) sy’n eu gwneud yn galed ac yn gryf.
Bydd esgyrn hir fel y ffemwr yn cynnwys mêr yng nghanol yr asgwrn.
Mae mêr coch yn cynhyrchu celloedd coch y gwaed, ac felly mae gan
esgyrn gyflenwad da o waed.
Mêr Esgyrn
Calsiwm
Mae angen i anifeiliaid ifainc gael calsiwm yn eu diet er mwyn
sicrhau bod eu hesgyrn yn gryf ac yn iach.
Gall diffyg calsiwm achosi’r llech (rickets - clefyd diffyg
sy’n atal esgyrn rhag datblygu’n iawn).
Gallai anifeiliaid llawndwf, fel gwartheg godro sy’n llaetha,
fedru symud calsiwm o’r esgyrn i lif y gwaed.
Wrth i anifeiliaid heneiddio gallai fod yn anoddach iddynt
ryddhau’r calsiwm, a gall hyn achosi twymyn llaeth
(hypocalsemia).
Cymalau
Diffiniad: Ceir cymal lle mae dau asgwrn yn cwrdd â’i gilydd.
Bydd strwythur y cymalau’n rheoli cyfeiriad a symudiad y cymal a
faint y bydd yn symud.
Beth yw cydrannau’r cymal?
Mae cymal yn cynnwys y meinweoedd canlynol:
Gewynnau – ffibrau gwydn sy’n cysylltu’r esgyrn
Tendonau – ffibrau sy’n glynu cyhyrau wrth esgyrn
Cartilag – haen lyfn a llithrig sy’n gorchuddio pennau esgyrn ac
yn lleihau ffrithiant
Hylif synofaidd – yr hylif sy’n iro’r cymal
Sut mae’r sgerbwd yn cynorthwyo symudiad?
Mathau o gymal
Mae yna 3 prif math o gymal
Cymalau sefydlog
Cymalau cartilagaidd
Cymalau synofaidd
Cymalau sefydlog
Bydd yr esgyrn yn cydgloi fel na cheir unrhyw symudiad.
E.e. y penglog.
Cymalau cartilagaidd
Dyma gymalau sydd yn gallu symud ychydig.
Mae cartilag yn cysylltu’r esgyrn, ac felly mae ychydig o
symudiad.
Mae cymalau fel hyn yn yr asgwrn cefn, rhwng y fertebrâu.
Cymalau synofaidd
Mae’r rhain yn gallu symud yn rhydd.
Mae gan y cymalau gartilag a chwpan (capsule) o hylif synofaidd ar
bennau’r esgyrn.
Mae cymalu pelen a soced (e.e. yn y glun a’r ysgwydd) a chymalau
colfach (e.e. yn y penelin) yn enghreifftiau o’r mathau hyn o
gymalau.
Problemau Iechyd Ysgerbydol
Clefyd y cymalau
Ceiff hyn ei alw yn polyarthritis, sydd yn golygu arthritis neu
llid yn y cymalau.
Mae hyn yn digwydd pan fydd bacteria yn mynd i mewn i gorff anifail
ifanc ac yn heintio cymal.