Mae'r adnodd hwn yn addas i gefnogi cyrsiau Lefel 2 Amaethyddiaeth.
Mae lles anifeiliaid yn bwysig oherwydd bod:
Mae canllawiau penodol yn ymwneud â lles anifeiliaid fferm yng Nghymru a Lloegr. Mae codau lles ar gael ar gyfer gwahanol fathau o dda byw, e.e. defaid, gwartheg a moch, ac ar gyfer gwahanol amgylchiadau fel ocsiynau da byw.
Dylai pawb sy’n berchen ar dda byw, neu sy’n gyfrifol amdanynt, gydymffurfio â’r safonau a restrir yn y codau hyn.
Rhaid cadw anifeiliaid mewn modd sy’n bodloni anghenion y pum rhyddid.
Y pum rhyddid, a nodir ar ddechrau’r codau lles, yw:
1. Rhyddid oddi wrth newyn a syched.
2. Rhyddid oddi wrth anghysur.
3. Rhyddid oddi wrth boen, anaf neu glwyf.
4. Rhyddid i ymddwyn yn normal.
5. Rhyddid oddi wrth ofn a phryder.
Trwy gael mynediad rhwydd at ddŵr ffres ac at borthiant a fydd yn sicrhau iechyd ac egni llawn.
Trwy ddarparu amgylchedd priodol gan gynnwys cysgod a lle gorffwys cyffyrddus.
Trwy’u hatal, neu drwy ddiagnosis a thriniaeth gyflym.
Trwy ddarparu digon o le, cyfleusterau priodol a chwmni anifeiliaid eraill o’r un rhywogaeth.
Trwy sicrhau amodau a thriniaeth i osgoi dioddefaint meddyliol.
Er mwyn sicrhau y cedwir da byw yn unol â’r safonau hyn, dylai’r bobl sy’n gofalu am dda byw weithredu fel a ganlyn: