Mae'r adnodd hwn yn addas i gefnogi cyrsiau Lefel 2 Amaethyddiaeth.
Rhaid defnyddio a storio meddyginiaethau’n gywir er mwyn:
Gellir cael copïau o “The code of practice on the responsible use of animal meddyginiaethau on the farm”, o’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol. Mae’r prif bwyntiau yn cynnwys:
1. Cynllunio a phrynu
2. Rhoi meddyginiaethau
3. Diogelwch
4. Storio
5. Gwaredu meddyginiaethau a nodwyddau nad oes eu hangen
6. Cofnodion meddyginiaethau
Cynlluniwch ymlaen llaw; dylai fod gan y fferm gynllun clir ar gyfer iechyd anifeiliaid sy’n ymdrin ag atal a thrin clefydau. Rhaid cynnal asesiadau risg er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel. Dylech gydweithio â’r milfeddyg er mwyn sicrhau bod y meddyginiaethau a’r triniaethau cywir yn cael eu rhoi.
Dim ond un person ddylai fod yn gyfrifol am gofnodi a rhoi meddyginiaethau, a sicrhau bod y cyfnodau diddyfnu’n cael eu parchu.
Dilynwch yr holl gyfarwyddiadau ar y label bob tro, e.e. defnyddio dillad amddiffynnol. Rhaid dilyn canllawiau’r asesiadau risg.
Rhaid storio meddyginiaethau yn unol â’r cyfarwyddiadau ar y label.
Rhaid gwaredu nodwyddau sydd wedi’u defnyddio yn ofalus, drwy ddefnyddio cynhwysydd pwrpasol er enghraifft.
Rhaid cadw cofnodion o’r meddyginiaethau a ddefnyddiwyd ar y fferm am o leiaf dair blynedd.
Rhaid i’r cofnodion ddangos:
Er mwyn atal gweddillion rhag mynd i’r gadwyn fwyd, rhaid sicrhau bod y cofnodion yn gyflawn ac yn cynnwys:
Os bydd anifeiliaid sydd wedi’u trin yn dangos unrhyw adweithiau niweidiol i’r meddyginiaethau, rhaid adrodd wrth eich milfeddyg neu wrth Gynllun Gwyliadwraeth Ymatebion Niweidiol i Gyffuriau yn y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol.