Mae'r adnodd hwn yn addas i gefnogi cyrsiau Lefel 2 Amaethyddiaeth.
Nid oes angen gwres ychwanegol ar anifeiliaid llawndwf pan fyddant yn cael eu lletya, ond gallai fod ei angen ar anifeiliaid ifainc fel moch bach yn yr ardal ddidolborthi (creep area).
Er mwyn i’w hamgylchedd fod yn iach, mae angen digon o awyr iach ar anifeiliaid sy’n cael eu cadw dan do.
Mae awyru da hefyd yn lleihau nifer yr achosion o glefydau resbiradol drwy waredu’r amgylchedd lle y gall organebau sy’n achosi clefydau ffynnu.
Mae systemau lletya gwartheg a defaid yn y DU yn dibynnu ar awyru naturiol, gydag aer yn cael ei dynnu i mewn trwy ochrau’r adeilad ( e.e. trwy fyrddau Swydd Efrog), ac yn gadael trwy awyrellau (vents) yn y to (e.e. cribau agored).
Mae angen awyriad ar dda byw er mwyn sicrhau nad oes gormod o lwch yn yr aer, ac er mwyn atal nwyon gwenwynig rhag cronni.
Pan gaiff slyri ei gorddi neu’i droi mae’n rhyddhau rhagor o nwy, ac mae arwyddion mewn llawer o adeiladau i atgoffa pobl o’r peryglon. Os oes rhaid corddi neu droi slyri sydd mewn storfa o dan yr adeilad, ac er mwyn osgoi problemau, dylid symud da byw allan o’r adeiladau.
Y ‘gyfradd stocio’ yw nifer yr anifeiliaid y gellir eu cadw ar arwynebedd penodol o dir.
Tabl 1 – Gofynion gofod defaid sy’n cael eu lletya’n rhydd ar wellt
Lle mae’n bosibl, dylid cadw mamogiaid beichiog mewn grwpiau o lai na 50 gan fod hyn yn hwyluso’r gwaith o roi sylw unigol iddynt adeg ŵyna.
Os cedwir gwartheg mewn ciwbiclau yr argymhelliad yw bod 5% yn fwy o giwbiclau nag sydd o wartheg yn y grŵp sydd i’w letya.
Mae angen i giwbiclau gael digon o wasarn glân er mwyn i’r gwartheg fod yn gyfforddus, neu gallant ddatblygu briwiau cyswllt neu friwiau gwasgedd.
Rhaid i fuarthau gwellt fod yn ddigon mawr er mwyn i bob anifail fedru gorwedd a symud o gwmpas yn rhydd.
Tabl 2. Gofynion gofod gwartheg bîff mewn buarthau gwellt.
Os cedwir gwartheg ar loriau estyllog, yna bydd eu gofynion gofod yn wahanol.
Tabl 3. Gofynion gofod gwartheg, a chafnau, sydd ar loriau estyllog. Daw’r tablau o ‘Clean beef cattle for slaughter. A guide for producers.’
Os defnyddir estyll, rhaid iddynt fod o’r maint cywir ar gyfer y da byw dan sylw. Ni ddylid rhoi mamogiaid ac ŵyn ifainc ar loriau estyllog oni bai bod gwasarn addas ychwanegol ar eu cyfer.
Pan yn lletya gwartheg rhaid ystyried maint yr anifail, math yr anifail, y math o wasarn, y system gynhyrchu a phrun ai bod gan yr anifail gyrn ai peidio.
Dylai fod gan dda byw fannau gorwedd sych a chyffyrddus, sy’n sych ac yn lân dan draed. Mae hyn yn golygu bod angen eu glanhau, a newid y gwasarn, yn rheolaidd.
Ychydig iawn o anifeiliaid sy’n cael eu clymu tra byddant dan do.
Rhaid i loriau, mewn tramwyfeydd a mannau eraill, gael eu cynnal yn dda.