Mae'r adnodd hwn yn addas i gefnogi cyrsiau Amaethyddiaeth Lefel 2.
Mae’r uned hon ar sefydlu cnydau yn cynnwys:
Mae gan hedyn bilen wydn a elwir yn ‘hadgroen’ sy’n amddiffyn yr hedyn rhag ffyngau, bacteria a phryfed. Yn yr ‘hadgroen’ ceir ‘embryo’ sy’n cynnwys y:
Caiff planhigion eu dosbarthu fel naill ai monocotyledonau (un gotyledon yn yr hedyn) neu ddeugotyledonau (dwy gotyledon yn yr hedyn).
Mae grawnfwydydd a hadau porfa yn fonocotyledonau (yn cynnwys un gotyledon). Mae had gwenith yn enghraifft nodweddiadol:
Mae’r ffeuen lydan yn enghraifft dda o ddeugotyledon (yn cynnwys dwy gotyledon):
| Monocotyledonau | Deugotyledonau |
|---|---|
|
Mae gan yr embryo un had-ddeilen Datblygir system wreiddiau cynradd ond yna fe’i disodlir gan system adwreiddyn Fel arfer, planhigion cul-ddeiliog, e.e. Granfwydydd a gweiriau |
Mae gan yr embryo ddwy had-ddeilen Datblygir system wreiddiau cynradd ac mae’n parhau Planhigion llydanddail fel arfer e.e. meillion , bresych a thatws |
Ffotosynthesis yw’r broses pan fydd y planhigyn yn cynhyrchu ei fwyd ei hun.
Mae glwcos yn garbohydrad sy’n storio egni yn y planhigyn ac fe’i defnyddir ar gyfer tyfu a datblygu.
Resbiradaeth yw’r broses sydd i’r gwrthwyneb o ffotosynthesis.
Caiff dŵr a maetholion eu cludo i’r planhigyn o’r pridd.
Mae’r planhigyn yn tynnu’r dŵr i mewn drwy broses sugno sy’n cychwyn yn y dail.
Caiff y gyfradd amsugno ei harafu gan:
Mae’n rhaid i ddŵr adael y planhigyn drwy’r dail er mwyn cael y sugnedd sydd ei angen er mwyn tynnu rhagor o faeth o’r pridd. ‘Trydarthiad’ yw’r term am y broses hon.
Mae gan y broses hon ddwy effaith fanteisiol:
Y ffactorau sy’n hyrwyddo’r gyfradd drydarthu yw:
Mae’n rhaid i blanhigion gludo bwyd a dŵr yn fewnol. Gelwir hyn yn ‘Trawsleoliad’.
Mae tiwbiau ffloem yn gelloedd byw sy’n cludo cynhyrchion ffotosynthesis.
Mae tiwbiau’r sylem yn tynnu dŵr a mwynau o’r gwreiddiau i’r dail.
Mae eginiad hadau yn cael ei ysgogi gan amodau anerobig, presenoldeb dŵr a chynhesrwydd.
Y prif brosesau yn ystod twf planhigion yw:
Caiff cyfradd tyfu planhigion ei ddylanwadu gan:
Gall planhigion atgynhyrchu drwy ddulliau rhywiol neu anrhywiol.
Mae atgynhyrchu rhywiol yn digwydd pan gaiff paill a gynhyrchir yn rhan wrywaidd y blodyn, y stigma, ei drosglwyddo drwy bryfed neu gyda’r gwynt i’r ofwlau (wyau) a gynhyrchir yn rhan fenywaidd y blodyn, y carpel.
Gelwir y math hwn o atgynhyrchu hefyd yn ‘atgynhyrchu llystyfol’.
Manteision
Anfanteision