Sefydlu Cnydau
Adran 2 - Gwyddoniaeth Pridd
Mae'r adnodd hwn yn addas i gefnogi cyrsiau Amaethyddiaeth Lefel 2.
Cynnwys
Mae’r uned hon ar wyddoniaeth pridd yn cynnwys:
Sesiwn 1 – Cyfansoddiad pridd
Sesiwn 2 – Mathau o bridd
Sesiwn 3 – Dosbarthiad pridd
Sesiwn 4 – Ffrwythlondeb pridd
Sesiwn 5 – Samplu a ddadansoddi pridd
Adran 2
Sesiwn 1 - Cyfansoddiad Pridd
Cyfansoddiad Pridd
Mae pridd yn ffurfiant naturiol cymhleth sy’n sicrhau amgylchedd
addas i blanhigion gael dŵr, maetholion ac ocsigen, ac mae’n
angorfa gadarn.
Caiff pridd ei ffurfio wrthi i greigiau hindreulio ac wedi hyn,
bydd planhigion, anifeiliaid a micro-organebau’n tyfu ac yn
pydru.
Proffil pridd (Ioan Rhys Williams)
Cyfansoddiad Pridd
Gellir gwahanu cyfansoddiad pridd i bedair rhan:
1. Solidau
2. Hylifau
3. Nwyon
4. Organebau byw
Solidau
Ceir dau fath o sylwedd solid mewn pridd:
Sylwedd mwynol
Sylwedd organig
Sylwedd mwynol
Mae cerrig, tywod, silt a chlai yn rhoi adeiladwaith ac ansawdd
i bridd. Mae cyfansoddiad y sylwedd mwynol yn chwarae rhan
bwysig wrth benderfynu pa mor hawdd fydd hi i drin y tir.
Mae’r sylwedd mwynol yn rhoi maetholion i blanhigion ond nid
nitrogen.
Sylwedd organig
Pan fydd gweddillion planhigion neu dail fferm yn cael eu troi
yn y pridd, maent yn agored i ymosodiadau bacteriol a chollir
llawer ohono drwy’r aer ar ffurf carbon deuocsid, ond mae
gweddillion tywyll eu lliw yn weddill – yr enw arnynt yw ‘hwmws’
neu ‘sylwedd organig pridd’.
Mae sylwedd organig pridd yn llawn maetholion. Mae’n gwella
sefydlogrwydd pridd a pha mor hawdd yw trin pridd trwm.
Gwrtaith ieir: Ffynhonell dda o fater organig
Hylifau
Mae dŵr yn rhan hanfodol o bridd ffrwythlon sy’n amrywio yn ei allu
i ddal dŵr. Gelwir y gofod rhwng gronynnau yn fandyllau a gellir eu
llenwi ag aer, dŵr neu’r ddau beth. Os caiff y mandyllau eu llenwi
ag aer yn unig, nid oes dŵr ar gael ar gyfer y planhigion. Os yw’r
mandyllau wedi eu llenwi’n gyfan gwbl â dŵr, bydd y pridd yn
ddwrlawn ac ni fydd ocsigen ar gael i’r planhigion.
Cyfrannau Aer a Dŵr yn y Pridd
Yn ddelfrydol, dylid cael yr un faint o aer a dŵr yn y pridd.
Mae faint o ddŵr y mae planhigion yn ei gael yn dibynnu ar faint
gronynnau’r sylwedd mwynol yn y pridd.
Mae gronynnau tywod yn fwy na gronynnau silt sydd, yn eu tro, yn fwy
na gronynnau clai.
Mae gronynnau llai yn creu rhagor o fandyllau, felly gall clai ddal
rhagor o ddŵr na silt, sy’n gallu dal rhagor o ddŵr na thywod.
Y pridd mwyaf ffrwythlon yw’r pridd sy’n draenio’n rhwydd ond sydd
hefyd yn medru dal llawer iawn o ddŵr yn ystod sychder.
Llif dŵr trwy briddoedd tywodlyd, cleiog a silt
Llun wedi gymryd oddi wrth: AHDB Principles of good soil management.
Nwyon
Mae aer yn cystadlu â dŵr am y mandyllau rhwng gronynnau pridd.
Mae angen y pridd a micro-organebau ocsigen ar wreiddiau
planhigion ynghyd ag anifeiliaid er mwyn iddynt allu resbiradu
ac allyrru carbon deuocsid.
Mae’r aer a geir mewn pridd yn aer atmosfferig a newidiwyd gan y
gweithgareddau hyn, felly mae’n cynnwys llai o ocsigen a rhagor
o garbon deuocsid.
Awyru
Rhaid wrth awyru da er mwyn cynhyrchu planhigion yn effeithiol.
Caiff aer a ddefnyddiwyd ei ddisodli gan aer ffres.
Mae’r broses hon yn digwydd yn bennaf wrth i ddŵr symud i mewn
ac allan o’r pridd, e.e. mae dŵr glaw yn gwthio’r hen aer allan
o’r mandyllau, yna wrthi i’r dŵr gael ei ddefnyddio neu ei
ddraenio ymaith, caiff ei ddisodli gan aer ffres.
Awyru Da
Caiff awyru ei gynorthwyo gan:
Newidiadau mewn tymheredd.
Draenio da.
Trin y tir.
Adeiladwaith pridd agored.
Organebau Byw
Ceir dau fath o sylwedd byw mewn pridd:
Micro-organebau.
Anifeiliaid.
Micro-organebau’r Pridd
Ceir miliynau o ficro-organebau bychain iawn ym mhob gram o
bridd ffrwythlon, a’r rhai mwyaf niferus yw bacteria. Mae’r
mwyafrif o’r bacteria yn bwydo ar sylwedd organig ac yn ei
ddadelfennu, cânt eu hegni o startsh yn y pridd ac maent yn
rhyddhau carbon deuocsid. Mae rhai micro-organebau’n defnyddio
nitrogen y mae planhigion ei angen o’r pridd er mwyn cynyddu’r
stôr brotein, ond mae gan rai bacteria’r gallu i sefydlogi
nitrogen o’r aer, sy’n fanteisiol i’r planhigion.
Micro-organebau Arall
Mae micro-organebau eraill a geir yn y pridd yn ‘ffyngau’, ‘algâu’ a
‘phrotosoa’. Mae gweithgaredd yr holl ficro-organebau’n gwella
cynhyrchedd y pridd.
Anifeiliaid Pridd
Yr anifail pridd amlycaf yw’r abwydyn. Credir yn gyffredinol eu
bod yn cael effaith dda ar ffrwythlondeb pridd, yn enwedig tir
glas. Maent yn byw mewn tyllau yn y pridd ac yn bwyta sylwedd
organig. Maent yn fanteisiol i’r pridd gan eu bod yn cludo dail
wedi syrthio, gwellt a deunydd tebyg i lawr i’r pridd, maent yn
gwneud llawer o dyllau sy’n galluogi dŵr i fynd i mewn i’r
pridd, draenio o’r pridd a thynnu aer ffres i mewn.
Twrch Daear
Yr abwydyn yw prif gyflenwad bwyd gwahaddod sy’n gwneud cymaint
o ddifrod drwy dyrchu a chodi twmpathau o bridd.
Anifeiliaid eraill yn y pridd
Ymhlith yr organebau eraill sy’n byw yn y pridd y mae gwlithod,
malwod, nadroedd miltroed, morgrug, chwilod a larfae. Ni fydd y
ffermwr ond yn poeni am y rhai sy’n difrodi’r cnwd yn
uniongyrchol.
Adran 2
Sesiwn 2 - Mathau o Bridd
Mathau o Bridd
Mae adeiladwaith (structure) ac ansawdd (texture) y pridd yn amrywio
o un math i’r llall.
Adeiladwaith y Pridd
Dyma drefn y gronynnau pridd. Gall newid gyda’r tywydd, wrth i
wreiddiau dreiddio ac wrth i’r tir gael ei drin. Nid oes modd
mesur adeiladwaith y pridd ond gyda phrofiad. Mae modd asesu’r
ansawdd wrth ei ymddangosiad a sut mae’n ‘teimlo’.
Ansawdd y Pridd
Caiff ansawdd y pridd ei bennu gan faint o glai, silt, tywod a
sylwedd organig sydd yn y pridd. Mae modd mesur ansawdd y pridd drwy
gynnal dadansoddiad mecanyddol o sampl sy’n mesur maint y gronynnau.
Mae’n anodd iawn newid ansawdd y pridd.
Ystod y priddoedd sydd ar ffermydd
Pridd Cleiog
Nodweddion
Mae ganddo’r gronynnau lleiaf.
Mae’n ludiog pan fydd yn wlyb a gellir ei fowldio i wahanol siapiau.
Bydd yn chwyddo pan fydd yn wlyb ac yn crebachu pan fydd yn sych.
Gall ddal rhagor o ddŵr na’r mwyafrif o briddoedd.
Mae’r tir yn wlyb yn y gaeaf ac mae’n cynhesu’n araf yn y gwanwyn.
Pridd Cleiog
Cnydio
Ceir anawsterau wrth drin tir gyda phridd cleiog, ychydig iawn o
amaethu a geir ac yn aml, caiff ei adael fel porfa barhaol ac ni
cheir pori ond yn ystod y tymor tyfu.
Lle tyfir cnydau âr, caiff gwndwn glaswellt 3 - 4 blynedd ei
gynnwys yn y cylchdro. Gwenith y gaeaf yw’r cnwd âr mwyaf
poblogaidd ar y pridd hwn.
Tyfir betys siwgr a thatws ar rai mathau o bridd cleiog ond ceir
anawsterau wrth baratoi’r gwely hadau, rheoli chwyn a chynaeafu.
Pridd Tywodlyd
Nodweddion
Mae ganddo’r gronynnau mwyaf.
Mae’n teimlo’n arw a grutiog.
Fe’i gelwir yn ‘bridd ysgafn’ gan mai ychydig o bŵer sydd ei
angen i’w drin.
Mae’n hawdd i’w ddraenio.
Mae’n cynhesu’n gynnar yn y gwanwyn ac mae’r cnydau’n dueddol o
losgi gan na all gadw llawer o ddŵr.
Mae ganddo sylwedd organig isel (2-3%).
Pridd Tywodlyd
Cnydio
Gellir tyfu ystod eang o gnydau ar y math hwn o bridd ond mae’r
cynnyrch yn ddibynnol ar gyflenwad da o ddŵr a gwrtaith.
O ganlyniad i lefelau ffrwythlondeb isel a’r anhawster i gadw
dŵr yn y pridd hwn, rhaid wrth systemau dyfrhau ac mae’n rhaid
gwasgaru gwrtaith a thail yn aml. Mae hyn yn haws oherwydd ei
fod yn bridd cynnar ac mae’n hawdd ei drin.
Ar bridd ysgafn, tywodlyd, lle nad yw dyfrhau’n bosibl, tyfir
moron, rhyg a betys siwgr.
Ar y pridd tywodlyd mwy ffrwythlon lle ceir cyflenwad dŵr, y
prif gnydau âr yw barlys, pys, tatws, moron a betys siwgr.
Gellir allaeafu stoc ar y pridd hwn heb y perygl o sathru.
Silt
Nodweddion
Mae gan silt deimlad llyfn, fel menyn ac mae’n anodd ei drin a’i
reoli.
Mae’r silt sy’n cynnwys tywod mân yn un o’r priddoedd mwyaf
ffrwythlon yn y wlad.
Silt
Cnydio
Yng ngorllewin y Deyrnas Unedig, y prif gnydau ar y pridd hwn yw
porfa a grawnfwydydd.
Yn nwyrain y Deyrnas Unedig, tyfir gwenith, tatws, betys siwgr, pys,
winwns, cynnyrch hadau ar gyfer cnydau gwraidd a bylbiau ar y math
hwn o bridd.
Lomau
Nodweddion
Mae ei ansawdd hanner ffordd rhwng pridd cleiog a phridd
tywodlyd.
Mae ganddo’r mwyafrif o fanteision ac ychydig anfanteision y
pridd cleiog a phridd tywodlyd.
Mae’n cynhesu’n gymharol gynnar yn y gwanwyn ac mae’n
gwrthsefyll sychder yn weddol dda.
Lomau
Cnydio
Ystyrir mai hwn yw’r pridd gorau yn gyffredinol gan ei fod yn
naturiol ffrwythlon a gellir ei ddefnyddio er mwyn tyfu unrhyw
gnwd, ar yr amod bod y pridd yn ddigon dwfn.
Mae’r math hwn o bridd yn ddelfrydol ar gyfer ffermio cymysg.
Grawnfwydydd, tatws a betys siwgr yw’r prif gnydau âr tra bod
gwndwn glaswellt yn darparu tir pori a swmp o fwyd gaeaf ar
gyfer gwartheg godro a bîff ynghyd â defaid.
Pridd Calchog
Nodweddion
Mae’n deillio o sialc a chalchfaen ac mae’n cynnwys symiau amrywiol
o galsiwm carbonad.
Mae pa mor rhwydd ydyw i’w drin yn dibynnu ar faint o glai, sialc
neu galchfaen sy’n bresennol.
Mae’n draenio’n rhwydd ac mae’n fas. Mae’n dueddol o sychu.
Gall cerrig miniog a ffurfiannau sialc effeithio ar hau a chynaeafu
a gall dreulio peiriannau.
Mae’n cynnwys lefelau isel o rai maetholion pwysig a gall yr amodau
alcalïaidd hefyd olygu na fydd elfennau hybrin ar gael.
pH fel arfer > 7.0
Pridd Calchog
Cnydio
Mae grawnfwydydd yn gnwd addas ar gyfer y math hwn o bridd.
Ceir cnydau gwraidd ar y pridd calchog dyfnach.
Pridd Mawnog
Nodweddion
Mae mawn pur yn cynnwys 50 – 90% o sylwedd organig ond mae pridd
mawnog yn cynnwys 20 – 25 % o sylwedd organig.
Fe’i ffurfiwyd mewn ardaloedd dwrlawn lle bu mwsogl, grug a
brwyn yn tyfu a lle y bu i’r sylwedd marw ddadelfennu ond yn
rhannol.
Mae’n gyfoeth o Nitrogen ond ceir lefelau isel o ffosffadau a
photash.
Ystod pH o 4-6
Pridd mawnog ar weundir
Pridd Mawnog
Cnydio
Gellir cael porfa a gwndwn meillion da ar y math hwn o bridd ond
ni ddylid pori neu sathru arno’n ormodol mewn tywydd gwlyb neu
bydd brwyn a gweiriau chwyn yn aildyfu’n gyflym.
Os yw’r tir yn cael ei drin yn dda, gellir tyfu’r mwyafrif o
gnydau âr, ond tatws a cheirch yw’r mwyaf addas.
Adran 2 - Sesiwn 3
Dosbarthiadau Pridd
Dosbarthiadau Pridd
Mae modd dosbarthu pridd i fathau gwahanol yn ôl faint o glai a
thywod sy’n bresennol.
Dosbarthiadau Ansawdd Pridd (Ioan Rhys Williams)
Adran 2 - Sesiwn 4
Ffrwythlondeb Pridd
Ffrwythlondeb Pridd
Mae pridd ffrwythlon yn rhoi’r holl faeth a dŵr sydd ei angen ar
blanhigyn i dyfu.
Ar unrhyw adeg, mae ffrwythlondeb pridd yn ddibynnol ar
gyfansoddiad ac ansawdd naturiol y pridd.
Bydd ffermwyr bob tro’n ceisio cynnal ffrwythlondeb y pridd drwy
ddulliau amaethu priodol.
Cyfansoddiad Naturiol
Y ffactorau sy’n dylanwadu ar gyfansoddiad naturiol yw:
Ansawdd a chyfansoddiad cemegol y pridd.
Topograffeg (llechwedd) - mae hyn yn effeithio ar ddraenio,
tymheredd a pha mor hawdd yw trin y pridd.
Hinsawdd a thywydd lleol.
Mae’r rhain yn cael dylanwad sylweddol ar werth rhentu a gwerthu
tir.
Cynnal Ffrwythlondeb Pridd
Mae nifer o ffactorau rheolaethol yn cyfrannu at y broses o
gynnal ffrwythlondeb pridd:
Cynnal neu gynyddu sylwedd organig.
Aredig i mewn weddillion gwellt neu gnydau tebyg, tail fferm a
chompostau.
Mae gwreiddiau a sofl cnydau yn ddigon i gynnal lefelau sylwedd
organig (hwmws) mewn rhai achosion, e.e. tyfu grawnfwydydd yn
barhaus.
Cynyddu sylwedd organig pridd yw’r ffordd orau o gynyddu’i allu
i ddal dŵr.
Draenio
Caiff mesurau i gynorthwyo gyda draenio tir eu defnyddio’n aml
gan ffermwyr, yn enwedig gyda phridd cleiog trwm sy’n dwrlenwi’n
hawdd.
Manteision Draenio
Mae manteision draenio’n cynnwys:
Lleihau’r dŵr sydd dros ben.
Mae dwrlawnder yn amddifadu planhigion o ocsigen ac yn rhwystro
planhigion rhag resbiradu. Canlyniad hyn yw gwreiddiau crebachlyd
sy’n atal planhigion rhag amsugno dŵr yn ystod cyfnodau sychach.
Haws trin y pridd.
Mae lleihad yn y dŵr yn cryfhau’r pridd.
Mae lefelau isel o ddŵr yn yr uwchbridd yn galluogi’r ffermwr i drin
y tir yn amlach.
Manteision Draenio
Cynyddu tymheredd y pridd.
Gall hyn arwain at hadau’n egino’n gyflym.
Defnydd mwy effeithiol o wrtaith.
Amodau mwy erobig, cynhesach yn y pridd yn golygu y gwneir
defnydd mwy effeithiol o wrtaith, yn enwedig nitrogen.
Manteision Draenio
Manteisiol i dir glas.
Bydd draenio’n ymestyn y tymor tyfu ac yn newid cyfansoddiad y
glaswellt, gan gynyddu’r gyfran o borfeydd ffrwythlon ar draul
chwyn.
Manteisiol i dda byw.
Bydd draenio’n cynyddu nifer y diwrnodau y gall anifeiliaid bori yn
ystod y flwyddyn heb niweidio adeiladwaith y pridd drwy sathru arno.
Mae pwysau byw anifeiliaid yn cynyddu’n well.
Lleihau’r achosion o lyngyr yr iau/afu a phroblemau gyda’r traed.
Dulliau Draenio
Cwteri a ffosydd agored
Fel arfer, caiff y rhain eu lleoli ar hyd ffiniau. Gallant fod
yn ddigonol i ddraenio ardaloedd eu hunain ond fel arfer, maent
yn ollyngfeydd ar gyfer draeniau tanddaearol.
Dulliau Draenio
Draenio â phibellau
Caiff pibellau plastig eu gosod yn barhaol dan y dyfnder aredig
er mwyn cario dŵr ymaith. Mae’r pellter rhwng pibellau’n dibynnu
ar ansawdd y pridd, e.e. mae’n rhaid i bibellau fod yn agosach
at ei gilydd mewn pridd trwm, cleiog.
Dulliau Draenio
Draeniad gwahaddennol
Mewn pridd trwm lle y mae angen llawer o ddraeniau, nid yw’n
talu ffordd i osod draeniau parhaol yn rheolaidd, felly bydd
aradr wadd yn creu sianeli dros dro dan y dyfnder aredig 2 - 3 o
fetrau ar wahân. Bydd y rhain yn arwain at ffos neu dros bibell
ddraenio barhaol.
Draenio Gwahaddennol
Cylchdroi cnydau er mwyn cynnal ffrwythlondeb
Mae cylchdroi yn system o gnydio lle tyfir dau neu ragor o
gnydau mewn dilyniant sefydlog.
Dyma enghraifft o gylchdroi chwe blynedd ar fferm âr:
Gwenith
Gwenith
Ffa
Gwenith
Barlys
Rêp had olew
Cylchdroi ar Fferm Gymysg
Enghraifft o gylchdroi ar fferm gymysg fyddai gwndwn glaswellt
2-3 blynedd, yna cnwd porthi megis india-corn porthi.
Prif resymau dros gylchdroi cnydau
Y prif reswm dros gylchdroi cnydau yw ei fod yn cynnal ffrwythlondeb
y pridd. Mae’r rhesymau dros hyn fel a ganlyn:
Mae gan wahanol gnydau wahanol anghenion o ran maetholion, felly ni
roddir straen ar y maetholyn penodol hwnnw bob blwyddyn.
Gellir gwasgaru tail ar y pridd, sy’n darparu maetholion a sylwedd
organig.
Mae trin y tir yn effeithiol yn gwella ffrwythlondeb.
Rhesymau eraill dros gylchdroi cnydau
Ceir rhesymau eraill dros gylchdroi cnydau, megis:
Rheoli chwyn.
Annog bioamrywiaeth.
Gwneud defnydd da o adnoddau naturiol.
Adran 2 - Sesiwn 5
Samplu a Dadansoddi Pridd
Samplu a Dadansoddi Pridd
Dylid samplau o bridd gael eu dadansoddi o gae penodol pob 3-4
blwyddyn.
Dyma drefn pwysig iawn a dylid ei gario allan gyda gofal a
manylder oherwydd fod cynhyrchiant y tir yn ddibynnol ar y
ffarmwr yn sicrhau bod y lefelau cywir o faetholion.
Mae bod yn ymwybodol o gyfansoddiad cemegol y pridd yn golygu
fod y ffarmwr yn medru addasu’r cyfansoddiad hwn er mwyn
cyrraedd y potensial cynhyrchu.
Cymryd Sampl Pridd
Mae’n bwysig i sicrhau bod y sampl yn gynrychioliadol o’r cae
gyfan gan bod y priodweddau cemegol yn medru amrywio o le i le
ar hyd y cae.
Gall hyn cael ei gyflawni drwy gymryd sawl is-sampl o wahanol
ardaloedd a chyfuno’r data yma er mwyn creu un sampl.
Technegau Samplu Pridd
Os mae yna wahaniaeth clir, gweledol yng nghyfansoddiad y pridd
o fewn cae h.y. ardal wedi’i ddraenio’n wael, yna dylid gymryd
sampl gwahanol ar gyfer pob ardal.
Caiff is-samplau o bridd eu cloddio allan drwy ddefnyddio
craiddydd crwn. Er mwyn osgoi halogiad, dylid gymryd samplau o’r
uwchbridd ar ddyfnder o 15cm am dir arau a 10cm am laswellt.
Mi fydd nifer mawr o is-samplau yn lleihau’r amrywiaeth a rhoi
cynrychiolaeth mwy dibynadwy o’r cae cyfan.
Diagram yn dangos sut mae samplu cae yn effeithiol
Dadansoddi’r Pridd
Caiff sampl ei gymryd i’r labordy er mwyn dadansoddi.
Caiff ei air-sychu, malu (heb dorri’r cerrig) a’i basio drwy
ridyll 2mm.
Mae’r dadansoddiad yn cael ei gario allan ar y ffracsiwn daear
mân er mwyn darganfod:
Cydoddiad y maetholion ar gael i blanhigion
Cynnwys y mater organig
pH
Ansawdd y pridd