Mae'r adnodd hwn yn addas i gefnogi cyrsiau Amaethyddiaeth Lefel 2.
Mae’r uned hon ar baratoi a thrin tir ar gyfer plannu yn cynnwys:
Mae’n rhaid i bridd fod mewn cyflwr addas er mwyn sefydlu cnwd. Prif amcanion trin pridd yw:
Caiff y broses drin ei rhannu’n ddwy: trin cynradd a thrin eilaidd.
Wrth i dractorau ac offer fynd yn ôl ac ymlaen dro ar ôl tro, gallant gynyddu dwysedd y pridd o dan yr uwchbridd. Yn ogystal, gellir creu ‘cletir’ - haenau o bridd dwys a grëir gan olwynion a dannedd yn mynd dros y pridd. Mae’r ddau beth yma’n gwaethygu draeniad ac yn llesteirio treiddiad gwreiddiau.
Caiff teclyn trin isbridd ei ddefnyddio i lacio’r pridd sy’n rhy ddwfn i’w gyrraedd gyda phrosesau trin arferol. Mae gan y teclyn trin isbridd un neu fwy o ddannedd, sy’n cyrraedd dyfnder o 60cm. Gosodir adenydd llorweddol ar waelod y teclyn trin isbridd, sy’n llacio’r pridd sy’n is na’r dyfnder aredig.
Gan amlaf, aredig yw’r broses gyntaf wrth baratoi’r gwely hadau. Mae’n ffordd ragorol o:
Y teclyn mwyaf cyffredin a ddefnyddir er mwyn aredig yw’r aradr ystyllen bridd, sy’n cynnwys y darnau canlynol:
Ceir dau brif fath o aradr ystyllod pridd:
Y prif wahaniaeth yw bod yr aradr ddwyffordd yn cario dwy set o ystyllod pridd o’i gymharu â’r aradr confensiynol, sy’n cario un set. Mae’r naill set o ystyllod pridd ar yr aradr ddwyffordd yn troi’r pridd i’r chwith a’r set arall yn ei droi i’r dde. Pan fydd un ochr o’r cae wedi ei chyrraedd, gellir troi’r aradr 180º a defnyddio’r set arall o ystyllod pridd fel nad oes angen troi yn ôl i’r man cychwyn yn y cae er mwyn dechrau rhediad newydd.
Mae manteision yr aradr ddwyffordd fel a ganlyn:
Gall ystyllod pridd gynhyrchu ystod o effeithiau ar y pridd, yn ddibynnol ar eu hyd a graddau eu crymedd. Gellir newid yr effaith a gynhyrchir gan wahanol estyll drwy eu defnyddio ar gyflymderau gwahanol.
Rhaid wrth aredig dwfn ar gyfer rhai cnydau, e.e. cnydau gwraidd a thatws, ond dylid gofalu na chodir yr isbridd sydd heb ei hindreulio lawer i’r arwyneb.
Ceir gwahanol fathau o drinwyr. Caiff trinwyr danheddog eu llusgo y tu ôl i’r tractor tra bod trinwyr cylchdro mwy cymhleth yn cael eu gyrru gan ‘siafft codi pŵer’ (PTO) y tractor.
Dyma declyn danheddog a ddefnyddir yn bennaf er mwyn llacio a thorri priddellau ar dir sydd wedi ei aredig. Gellir gosod naill ai pigau anhyblyg neu bigau sbring arnynt.
Mae pigau sbring a ddefnyddir ar dir sydd wedi ei aredig yn dirgrynu wrth i’r peiriant symud yn ei flaen, gan dorri priddellau’n dda.
Dyma rotor llorweddol - bydd ganddo naill ai lafnau siâp L neu bigau sy’n codi pŵer o siafft PTO y tractor.
Ceir nifer o wahanol fathau o ogau, a phrif ddiben pob un ohonynt yw torri’r pridd er mwyn cael gwely hadau effeithiol.
Mae gan y math hwn o og ddwy neu bedair echel y gellir eu haddasu, ac mae gan bob un nifer o ddisgiau siâp soser, rhwng 30 a 60cm mewn diamedr wedi eu mowntio ar ei hyd.
Caiff ogau disg eu defnyddio’n helaeth iawn fel trinwyr eilaidd er mwyn paratoi sawl math o wely hadau, ond gellir eu defnyddio fel triniwr sylfaenol ar hen dir glas cyn aredig, a hynny er mwyn galluogi’r aradr i gladdu’r dywarchen yn well neu i ddechrau dadelfennu’r sofl gwellt drwy ei gymysgu â’r pridd.
Mae gan og ddanheddog bigau fertigol bychain sydd wedi eu gosod ar ffrâm (cadwyn) anhyblyg neu hyblyg, ac yn aml, caiff ei llusgo dros dir sydd wedi ei drin er mwyn gorffen torri’r pridd yn bridd mân iawn. Gellir ei defnyddio hefyd ar ôl drilio er mwyn sicrhau y caiff yr hadau eu gorchuddio, neu gellir defnyddio’r og gadwyn ar dir glas er mwyn gwaredu â phorfa farw a matiog neu wasgaru talpiau o dail ar ôl pori.
Yn aml, caiff ogau danheddog eu tynnu y tu ôl i beiriannau eraill, e.e. triniwr neu ddril hau er mwyn gwneud dau beth ar yr un pryd.
Fel gyda’r rotovator, caiff yr og bweredig ei gyrru gan siafft PTO y tractor. Mae ganddi barau o ddannedd sy’n cylchdroi ar echelinau fertigol gyda setiau cyfagos o ddannedd yn cylchdroi i’r cyfeiriad arall ar gyflymderau uchel er mwyn malu’r pridd.
Maent fwyaf gwerthfawr ar bridd trwm wrth baratoi gwelyau hadau mân ar gyfer cnydau megis tatws a betys siwgr.
Mae’r rhain yn amrywio o roleri gwastad i roleri malu a rholer Caergrawnt.
Defnyddir rholer gwastad ysgafn er mwyn caledu ychydig gentimetrau uchaf y pridd fel y gall hadau’r planhigion gyffwrdd â gronynnau pridd ac er mwyn i’r pridd fedru dal rhagor o leithder.
Mae gan y math hwn o roler arwyneb rhesog ac mae ganddo nifer o olwynion haearn bwrw trwm ar echel. Mae pob olwyn oddeutu 7cm o led ac mae ganddynt grib sydd oddeutu 4cm mewn uchder.
Dyma roler cawell agored sydd â rhodenni haearn syth, â bylchau rhyngddynt, ar ei arwyneb sy’n malu priddellau’n effeithiol iawn.
Mae paratoi safle ar gyfer hau cnwd yn dibynnu ar ffactorau megis:
Un o’r ffactorau mwyaf sy’n dylanwadu ar baratoi’r gwely hadau yw’r cnwd a fwriedir ei ddefnyddio.
Yn gyffredinol, mae grawnfwydydd yn perfformio’n well yn rhannau dwyreiniol y Deyrnas Unedig o ganlyniad i gynhaeaf sychach ac amodau drilio mwy hyblyg.
Y bwriad y tu ôl i baratoi’r gwely hadau yw creu pridd mân (ansawdd y gwely hadau) sy’n cynnwys deunydd mân a thalpiau siâp wy. Dylai’r amodau hyn alluogi’r hadau i gael eu drilio a’u gorchuddio’n hawdd a dylai’r arwyneb aros yn arw ar ôl plannu.
Dyma fanteision y talpiau ar yr arwyneb:
Y broses gonfensiynol ar gyfer paratoi’r gwely hadau yw:
Trin cynradd:
Trin eilaidd:
Os yw'r amodau’n ffafriol, ychydig o waith trin sydd ei angen, h.y. trin yr arwyneb heb aredig. Mewn rhai achosion, ni fydd yn rhaid paratoi o gwbl lle gellir drilio hadau yn uniongyrchol i sofl cnwd blaenorol.
Mae gan rawnfwydydd y gwanwyn a grawnfwydydd y gaeaf yr un anghenion o ran hinsawdd a math o bridd.
Caiff cnydau gwraidd eu tyfu’n bennaf oll mewn ardaloedd âr ar hyd arfordir dwyreiniol y Deyrnas Unedig, lle mae llai o law yn caniatáu i ffermwyr gynaeafu yn hwyr yn yr hydref.
Mae gan gnydau gwraidd megis betys siwgr, swêds neu faip a moron hadau bychain sy’n rhaid eu gosod yn aml iawn mewn pelen er mwyn eu hau.
Yr hinsawdd ddelfrydol ar gyfer tyfu tatws yw:
Fel arfer, caiff tatws eu tyfu mewn gwrymiau neu welyau, felly rhaid wrth drin dwfn ond dylid ceisio osgoi codi pridd heb ei hindreulio a phriddellau i’r arwyneb. Y nod yw cynhyrchu pridd mân sy’n rhydd o briddellau a cherrig.
Mae’n rhaid i rêp had olew a had llin dyfu mewn pridd a chanddo ronynnau mân er mwyn sicrhau y daw i gyswllt yn rhwydd â’r hadau bychain er mwyn iddynt egino’n gyflym, gan fod sefydlu llwyddiannus yn allweddol o bwysig os am gael cynnyrch toreithiog.
Caiff rêp had olew ei hau ar ddiwedd mis Awst ac mae cadw lleithder yn ystod y cyfnod poeth a sych hwn yn hanfodol. Bydd gwely hadau cadarn yn help i gadw lleithder.
Gellir sicrhau pridd â gronynnau mân ar gyfer hau rêp had olew neu had llin drwy aredig yn yr hydref er mwyn i rew y gaeaf fedru ymdreiddio i'r pridd. Dyma’r broses gonfensiynol o baratoi’r gwely hadau:
• Trin cynradd:
Trin eilaidd: