Mae'r adnodd hwn yn addas i gefnogi cyrsiau Amaethyddiaeth Lefel 2.
Mae’r uned hon ar faetholion yn y gwely hadau yn cynnwys:
Pan gaiff cnydau eu cynaeafu, mae’r maetholion sydd wedi eu hamsugno yn cael eu gwaredu felly mae’n bwysig bod maetholion yn cael eu disodli a’u bod ar gael ar gyfer y cnwd nesaf.
Caiff y maetholyn hwn ei gyflenwi gan wrtaith a thail organig. Gall ffermwyr ddefnyddio codlysiau, e.e. meillion, pys a ffa fel ffynhonnell rydd o nitrogen gan eu bod yn cynnwys ‘cnepyn o facteria rhizobium’ sy’n sefydlogi nitrogen o’r atmosffer yn y pridd.
Caiff nitrogen ei gynhyrchu’n naturiol gan facteriwm sy’n dadelfennu sylwedd organig hefyd.
Caiff y maetholyn hwn ei gyflenwi gan wrtaith a sylwedd organig o dail neu weddillion planhigion.
Caiff y maetholyn hwn ei gyflenwi gan wrtaith, tail a gweddillion planhigion.
Caiff y maetholyn hwn ei gyflenwi gan wrtaith, tail a glaw (glaw asid).
| Maethlon mewn planhigion | Cnydau sydd fwyaf tebygol o ddioddef o’i ddiffyg | Amodau lle y bydd diffyg yn debygol | Symptomau’r diffyg | Effaith ar dwf | Effaith gormodoedd o’r maetholyn |
|---|---|---|---|---|---|
| Nitrogen | Pob cnwd heblaw am godlysiau | Pob math o bridd heblaw am fawn, os yw’r sylwedd organig yn isel ac yn dilyn grawnfwydydd didor | Planhigyn tenau a gwan, dail melyn, diffyg cadeiriau | Cyflymu twf, gwella ansawdd, annog meillion ar dir glas | Grawnfwydydd gorweddol, oedi cyn aeddfedu, tueddol o ddioddef o afiechydon ac o’r rhew, lleihau’r lefelau siwgr a startsh |
| Ffosfforws | Cnydau gwraidd a meillion | Pridd cleiog, ardaloedd lle ceir tipyn o law a thir glas gwael | Tebyg i nitrogen heblaw bod y dail yn bŵl a chanddynt arlliw porffor neu wyrdd | Cynnydd ym maint y dail, cyfradd a chynnyrch, yn troi dail yn wyrdd tywyll | Achosi i gwned aeddfedu’n rhy gynnar, ac felly’n lleihau’r cynnyrch |
| Potasiwm | Cnydau gwraidd a meillion | Pridd tywodlyd, tir glas sydd wedi ei dorri dro ar ôl tro ar gyfer silwair neu wedi ei lasfwydo | Methu â thyfu’n ddigonol, blaen ac ochr dail yn marw | Medru gwrthsefyll afiechydon a rhew yn well, gwella answadd | Gall oedi wrth aeddfedu achosi diffyg magnesiwm, a dera’r borfa mewn gwartheg |
| Magnesiwm | Grawnfwydydd, tatws, betys siwgr, pys, ffa, cêl | Pridd tywodlyd ysgafn | Smotiau’n ymddangos ar y dail | Cynhyrchu cloroffyl a gwella’r modd y caiff potasiwm ei ddefnyddio | Annhebygol o ddigwydd |
| Sylffwr | Y mwyafrif o gnydau | Pridd tywodlyd, os oes diffyg sylwedd organig yn y pridd ac os caiff ei gnydio’n ddwys | Tebyg i ddiffyg nitrogen | Gwneud nitrogen yn fwy effeithlon | Annhebygol o ddigwydd |
Mae elfennau hybrin yn fwynau sydd eu hangen ar gnydau mewn symiau bychain er mwyn iddynt dyfu’n iach. Yr elfennau hybrin sydd fwyaf diffygiol gan amlaf yw:
Mae’r angen am elfennau hybrin yn fwyaf tebygol mewn:
Mae cynnal dadansoddiad cemegol o’r pridd yn bwysig cyn defnyddio elfennau hybrin.
Gall defnyddio gormod o elfennau hybrin ddifrodi neu hyd yn oed ladd y cnwd. Ceir gwahanol ffurfiau ar elfennau hybrin y gellir eu defnyddio ar y tir, e.e:
Chwistrellwyr dail
F∙T∙E", sy’n cael ei gynhyrchu drwy ffritio 6 elfen (manganîs, boron, haearn, sinc, copr a molybdenwm).
Caiff tail ei ddefnyddio ar dir amaethyddol fel modd o gael gwared â gwastraff anifeiliaid sydd wedi cronni yn ystod eu cyfnod dan do. Mae hefyd yn fanteisiol gan ei fod yn cyflenwi’r tir â sylwedd organig ac mae’n ffynhonnell rad o faeth, megis Nitrogen (N), Ffosffad (P), Potasiwm (K) a Sylffwr (S).
Fel arfer mae’n cynnwys gwasarn megis gwellt, felly mae ganddo lefelau uchel o Gynnwys Sych (CS) a sylwedd organig (SO). Dyma isgynnyrch gwartheg godro, gwartheg bîff, defaid, moch a dofednod a gedwir dan do.
Cymysgedd o wrin a thail â lefel isel o Sylwedd Sych, sy’n peri iddo fod yn fwy hylifol. Dyma isgynnyrch moch a gwartheg a gedwir mewn ciwbiclau neu ar slatiau lle na chaiff y gwasarn ei gymysgu â thail. Dyma gynnyrch gwartheg godro a borthir â silwair a chanddo lefelau isel o Sylwedd Sych.
Dŵr a ddefnyddir i olchi mannau lle mae anifeiliaid wedi gollwng gwastraff.
Mae’r maetholion sydd wedi eu cynnwys mewn gwahanol fathau o dail yn amrywio yn ôl pa fath o anifail ydyw, diet a dull storio, e.e. mae gwartheg godro a borthir â diet yn llawn protein yn cynhyrchu tail a chanddo lefelau uwch o N o’u cymharu â thail gwartheg bîff.
| Da byw | Pwysau’r corff (kg) | Cyfnod dan do (diwrnod y flwyddyn) | Carthion pur (m3 neu dunelli) | Nitrogen (kg) | Ffosffad (kg) | Potash (kg) |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Gwartheg godro | 550 | 183 | 9.6 | 48 | 19 | 48 |
| Gwartheg biff | 400 | 240 | 6.2 | 31 | 12 | 31 |
| Moch | 200 | 365 | 4 | 20 | 20 | 16 |
| Dofednod (1000 o ieir) | 2200 | 365 | 41 | 660 | 545 | 360 |
| Defaid | 65 | 30 | 0.1 | 0.8 | 0.2 | 0.4 |
Ceir dau berygl amgylcheddol sy’n gysylltiedig â defnyddio tail:
Ceir dau berygl amgylcheddol sy’n gysylltiedig â defnyddio tail:
Dyma wrtaith cemegol y gellir ei brynu a’i ddefnyddio ar y tir er mwyn cynyddu’r maetholion sydd ar gael.
Mae gan y rhain un prif gynhwysyn cemegol, felly pan gânt eu defnyddio, ni fyddant ond yn cyflenwi’r maetholyn penodol hwnnw.
Mae angen mwy nag un o’r tri phrif faetholyn (N, P a K) ar nifer o gnydau, felly mae’n gyfleus i ddefnyddio’r holl faetholion ar yr un pryd. At y diben hwn, mae cynhyrchwyr wedi creu ystod o wrtaith cyfansawdd, sef nifer o faetholion mewn un gwrtaith.
Mae gwrtaith cyfansawdd yn ddrutach na gwrteithiau un cynhwysyn ond gellir cyfiawnhau’r gost ychwanegol os oes angen mwy nag un maetholyn, oherwydd y byddai’n ddrutach i’w wasgaru a’i gymysgu ac yn anodd ei wasgaru’n effeithiol.
Caiff cyfansoddiad gwrtaith cyfansawdd ei nodi yn nhermau cymhareb N:P:K.
| Cyfansawdd | Cynnwys | Defnydd |
|---|---|---|
| 20:10:10 | N gan mwyaf a swm cyfartal o P a K | Gwrtaith at ddibenion cyffredinol |
| 25:0:15 | N gan mwyaf, dim P ac ychydig o K | Defnyddir ar adladd porfa |
| 0:15:15 | Dim N ond swm cyfartal o P a K | Defnyddir mewn gwely hadau grawnfwydydd |
Gellir cael gwrtaith yn y Deyrnas Unedig naill ai ar ffurf solid neu hylif:
Mae manteision gwrtaith solid fel a ganlyn:
Ceir gwahanol ffurfiau ar wrtaith solid:
1. Powdr
2. Gronynnau
3. Priliau
4. Tameidiau
Mae’n rhaid i rai mathau o wrtaith fod ar ffurf hylif gan nad ydynt yn bodoli ar ffurf solid, e.e. wrea. Ychydig iawn o gyfran yn y farchnad sydd gan wrtaith hylifol. Dyma rai o’i nodweddion:
Daw gwrtaith organig o ddeunydd planhigion neu anifeiliaid.
Nid yw’n toddi’n syth mewn dŵr, felly ni chaiff ei drwytholchi mor hawdd â gwrtaith anorganig.
Mae’n rhaid iddo ddadelfennu er mwyn iddo fod yn doddadwy felly mae’n ffynhonnell o faetholion i blanhigion a ryddheir yn araf.
Yn annhebyg i wrtaith anorganig, gellir ei ddefnyddio’n helaeth heb niweidio gwreiddiau neu ddail sy’n egino.
Gall annog gweithgaredd microbau.
| Maetholyn | Ffynhonnell |
|---|---|
| Nitrogen (N) |
Gwaed Carn a chorn Tail wedi ei gompostio Gwastraff planhigion Brethyn gwael (gwastraff gwlân) |
| Ffosffad (P) |
Cig ac asgwrn Ffosffad craig Slag basig |
| Potasiwm |
Potash craig Siâl Adwlaraidd Sylfinit Lludw pren |
| Calciwm (Ca) and Magnesiwm (Mg) |
Halwynau Epsom Craig fagnesiwm galchaidd Sialc a chalchfaen wedi ei malu Gwymon calcheiddiedig |
| Sylffwr (S) |
Fflŵr sylffwr Sylffad potasiwm |
| Elfennau hybrin | Gwymon hylifol a sych |
Gellir prynu gwrtaith anorganig solid mewn bagiau o wahanol feintiau ee 600kg.
Storfeydd Parhaol
Caiff y raddfa pH ei defnyddio i fesur asidrwydd neu alcalinedd pridd. Mae pH 7 yn niwtral, ac mae gwerth pH sy’n is na 7 yn asidig ac mae gwerthoedd pH sy’n uwch na 7 yn alcalïaidd.
Mae trwytholchi sylweddol pan fydd llawer o law yn creu pridd asidig (sur), lle na fydd cnydau’n tyfu’n foddhaol.
Mae gan y mwyafrif o briddoedd lefel pH rhwng 4.5 a 8. Bydd cadw’r lefel pH delfrydol, sef 6.5, yn gwneud y gorau’r o’r maetholion a geir yn y pridd.
Bydd y pridd yn gwaredu calch drwy:
Mae lefel pH gywir neu ddelfrydol yn dibynnu ar y math o bridd a’r cnwd a fydd yn cael ei dyfu. Mae gofynion tir glas yn llai na gofynion cnydau âr.
| Cnwd | Lefel pH isaf |
|---|---|
| Barlys, betys siwgr, ffa, pys a maglus/lwsérn | 6.5 |
| India-corn, rêp had olew, ceirch, gweninth, bresych a moron | 6.0 |
| Tatws a rhyg | 5.5 |
| Ryegrass and pheiswellt | 5.0 |
Mae cyfanswm y calch sydd ei angen ar y tir er mwyn newid y pH i’w lefel delfrydol yn ddibynnol ar:
| pH y pridd | Pridd tywodlyd a lomog | Lomau tywodlyd a lomau silt | Lomau clai a chlai | Pridd organig | Pridd mawnog | |||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Âr | Porfa | Âr | Porfa | Âr | Porfa | Âr | Porfa | Âr | Porfa | |
| 6.2 | 3 | 0 | 4 | 0 | 4 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
| 6.0 | 4 | 0 | 5 | 0 | 6 | 0 | 4 | 0 | 0 | 0 |
| 5.5 | 7 | 3 | 8 | 4 | 10 | 4 | 9 | 3 | 8 | 0 |
| 5.0 | 10 | 5 | 12 | 6 | 14 | 17 | 14 | 7 | 16 | 16 |
https://ahdb.org.uk/knowledge-library/liming-for-a-grassland-reseed