Mae'r adnodd hwn yn addas i gefnogi cyrsiau Amaethyddiaeth Lefel 2.
Mae’r uned hon ar blannu cnydau yn cynnwys:
Cyn plannu cnwd, dylid asesu pa mor hyfyw fydd y fenter, a hynny fel rhan o’r cynllun busnes cyffredinol. Mae’n bwysig asesu a rhagweld:
Dylid seilio rheolaeth effeithiol o’r fenter ar gofnodi nodweddion y cae, dyddiadau’r gweithrediadau a mewnbynnau’n effeithiol. Mae’r manteision yn cynnwys:
Ceir sawl math o hadau ar gyfer pob cnwd, ac mae gan bob un ohonynt eu nodweddion eu hunain. Mae rhai nodweddion yn bwysicach i un cnwd na’r llall.
Mae amrywiaeth hadau yn helpu:
Pan fydd cynhyrchwyr yn dewis mathau, mae’n rhaid iddynt asesu eu cryfderau a’u gwendidau ac ystyried ffactorau pwysig, megis:
Mae ystod eang o gnydau yn cael eu tyfu yn y Deyrnas Unedig, ac mae gan bob un ohonynt eu nodweddion a’u gofynion eu hunain.
Gellir categoreiddio’r offer hwn yn dri gwahanol fath:
Mae’n rhaid i’r offer gael:
Gellir gwasgaru hadau ar dir sydd wedi ei drin gan ddefnyddio gwasgarwr. Mae’r hadau’n llifo o gynhwysydd drwy ddyfais fesur i fecanwaith sy’n cael ei yrru gan PTO sy’n cynnwys disgiau sengl neu ddwbl neu big sy’n siglo. Caiff yr hadau eu taflu o’r cefn ac i’r naill ochr o’r gwasgarwr. Mae gwasgarwyr yn fwyaf addas pan na fydd bod yn fanwl gywir o’r pwys mwyaf, e.e. hau hadau porfa.
Er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau, dylid gwasgaru’r hadau ar bridd gweddol laith sydd wedi ei drin ac wedi ei rolio mewn rhesi fel bod yr hadau’n syrthio i mewn i’r cwysi a wnaed gan y rholer. Gellir gorchuddio’r hadau gydag og ysgafn, og gadwyn, neu gellir eu rholio. Wrth wasgaru hadau grawn, dylid cynyddu’r gyfradd hau 5-10% am na ellir sicrhau’r dyfnder hau priodol bob tro.
Mae driliau’n gallu hau hadau o wahanol faint, o hadau porfa bychain i ffa mawrion. Fe’u datblygwyd er mwyn bodloni anghenion gwahanol fathau o gnydau. Mae pedwar prif fath o ddriliau:
Dyma brif gydrannau’r dril:
Mae gan y math hwn o ddril gynhwysydd sydd gyn lleted â’r peiriant a chanddo ddyfais fesur ar waelod y cynhwysydd ar gyfer pob rhes o hadau. Mae gan bob dyfais fesur rholer stydennog neu rychiog sy’n cylchdroi dan y cynhwysydd, yn casglu hedyn, yn ei drosglwyddo i’r tiwb hadau, yna mae’r hedyn yn syrthio i’r cwlltwr sy’n ei osod yn y pridd.
Mae gan y math hwn o ddril gynhwysydd canolog. Caiff yr hadau eu mesur oddi tano ac yna cânt eu chwythu gan ffan drwy’r tiwbiau i’r cwllter. Dyma fanteision y dril niwmatig o’i gymharu â’r dril cwymp-borthedig:
Yn ddelfrydol, dylai driliau blannu’r holl hadau ar yr un dyfnder a dylid eu hamgylchynu â phridd cadarn, llaith a chynnes. Cynlluniwyd y cylltyrau i wneud hyn. Ceir gwahanol fathau o gylltyrau sy’n addas ar gyfer gwahanol fathau o bridd ac amodau.
Os oes angen, gellir cau rhesi unigol y dril ar waelod y cynhwysydd. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol pan grëir ‘llwybrau’, sef traciau ar hyd y cae heb blanhigion. Bydd modd wedyn i chwistrellwyr a pheiriannau gwrteithio ddefnyddio’r llwybrau hyn heb ddifrodi planhigion ac er mwyn iddynt gyrraedd y mannau iawn.
Lle tyfir cnydau fel planhigion unigol, gwahanedig, mae’n rhaid plannu hadau yn unigol yn hytrach na mewn llif.
Gellir hau hadau unigol yn gywir drwy ddefnyddio dyfais mesur celloedd ar y plannwr. Mae’r hadau a ddefnyddir yn cael eu graddoli fel eu bod o’r un maint a phwysau.
Yn debyg i’r driliau cwymp-borthedig, mae gan yr hadwr trachywir nifer o unedau o resi unigol, ac mae gan bob un ei chynhwysydd ei hun. Gellir addasu lled y rhes.
Pan gaiff gwely tatws had ei gynhyrchu, mae’n rhaid gosod y tatws had (cloron) yn y gwrymiau. Mae’n rhaid gwneud hyn yn ofalus iawn er mwyn osgoi difrod, yn enwedig os yw’r hedyn wedi egino’n artiffisial drwy ei storio mewn man tywyll.
Mae’n rhaid i blannwr tatws fedru ymdopi â swm sylweddol o hadau. Mae oddeutu 40,000 cloronen yn dderbyniol er mwyn arbed yr amser o orfod ail-lenwi.
Caiff cloron eu casglu o’r cynhwysydd gan res o gwpanau sydd wedi eu gosod ar wregys a chânt eu cludo i slot yng ngwrym y pridd a grëwyd gan agorwr pridd siâp v. Caiff y gwrym ei ffurfio unwaith yn rhagor a chaiff y cloron eu gorchuddio gan set o ystyllod pridd.
Planwyr dwy res yw’r rhai safonol ond mae planwyr pedair rhes ar gael.
Er mwyn sefydlu a chnydio yn llwyddiannus, mae’n rhaid hau hadau ar y gyfradd a’r dyfnder cywir a chael dwysedd effeithlon.
Mae’n rhaid i’r amodau fod yn ffafriol, felly mae amseru hefyd yn bwysig. Mae’r ffactorau hyn yn amrywio yn ôl y math o gnwd a dyfir.
Dyddiad hau
Mae aredig tir trwm yn yr hydref yn hanfodol er mwyn galluogi’r tywydd gaeafol i gynhyrchu ‘rhew y gaeaf’. Gall amseru grawnfwydydd y gaeaf fod yn anodd o ganlyniad i amodau egino gwael os cânt eu hau yn rhy gynnar (gwlyb ac oer) neu’n rhy hwyr (gwelyau hadau sych a gwael).
Poblogaeth
Cyfradd hau
Caiff y gyfradd hau (kg hadau i bob hectar) ei phennu gan dri factor:
O’r holl ffactorau hyn, y ganran sefydlu ddisgwyliedig sydd fwyaf anodd ei phennu o ganlyniad i’r ffactorau allanol sy’n effeithio arni, megis:
Dylai’r ffermwr ddefnyddio ei wybodaeth, ei brofiad a hanes cae penodol er mwyn amcangyfrif y ganran sefydlu ddisgwyliedig ar gyfer pob cae. Gallai’r canlynol fod yn ganllaw sefydlu:
Mae gan yr hedyn grawnfwyd cymharol fawr stôr dda o garbohydradau sy’n ei alluogi i egino’n gymharol ddwfn. Ni fydd gan rawnfwydydd sydd wedi eu hau’n ddwfn lawer o egni cynnar a byddant yn gylchog. Gall hadau sydd wedi eu hau’n fas ddioddef o system wreiddiau annigonol a fydd yn agored i effeithiau niweidiol rhew.
Mae’r mwyafrif o hadau grawnfwyd a brynir wedi eu trin gan y cyflenwyr er mwyn amddiffyn yn erbyn plâu ac afiechydon sefydlu.
Dyddiad hau
Poblogaeth
Bydd grawnfwydydd y gaeaf yn datblygu digon o gadeiriau er mwyn cynhyrchu digon o ddwysedd cnwd o boblogaeth blanhigion o 100 planhigyn/m², ond caiff poblogaethau uwch o 250 -30 planhigyn/m² eu hargymell er mwyn:
Mae poblogaethau sy’n uwch na 350 planhigyn/m² yn wastraff a gall hyn arwain at orweddiant.
Mae’r theori sylfaenol y tu ôl i’r gyfradd hau ar gyfer grawnfwydydd y gwanwyn hefyd yn berthnasol i rawnfwydydd y gaeaf, ond mae’r cyfraddau’n amrywio.
Nid oes yn rhaid i’r dyfnder hau amrywio’n sylweddol rhwng grawnfwydydd y gwanwyn a’r gaeaf, ond golyga’r pridd oerach yn yr hydref, ynghyd â’r risg o ddifrod o ganlyniad i rew a’r ffaith bod gan rawnfwydydd y gaeaf fwy o amser i ymsefydlu, bod hau ychydig yn ddyfnach yn fwy manteisiol i rawnfwydydd y gaeaf.
| Grawnfwydydd | Dyddiad hau | Cyfradd hau (kg/Ha) | Dyfnder hau (cm) | Lled y rhes (cm) | Poblogaeth (planhigyn/m2) |
|---|---|---|---|---|---|
| Gwenith y gwanwyn |
Diwedd Chwef - dechrau Mawrth Ganol Mawrth > |
190 - 220 220 - 230 |
2 - 2.5 | 10 - 17 | 400 - 500 |
| Barlys y gwanwyn |
Chwef - Mawrth Ebrill |
125 - 150 160 - 170 |
2 - 2.5 | 10 - 17 | 350 - 400 |
| Gwenith y gaeaf |
Diwedd Medi - ganol Hydref Tach - Rhag |
140 - 160 180 - 220 |
2.5 - 3 | 10 -17 | 250 - 300 |
| Barlys y gaeaf |
Ganol Medi - dechrau Hydref Ganol Hydref - diwedd Hydref |
140 - 150 150 - 190 |
2.5 - 3 | 10 - 17 | 250 - 300 |
Dyddiad hau
Gellir hau india-corn mewn unrhyw fath o bridd, ar yr amod bod pridd mân, da yn cael ei gynhyrchu ar ddiwedd Ebrill, ddechrau Mai.
Nid yw pridd trwm yn addas gan ei fod yn araf yn cynhesu ac nid yw pridd ysgafn, bas yn addas ychwaith gan ei fod yn dueddol o sychu yn yr haf.
Mae tymheredd y pridd yn factor pwysig wrth benderfynu ar y dyddiad hau. Cynghorir amaethwyr i beidio â hau hyd nes y bydd tymheredd y pridd wedi cyrraedd 10ºC neu uwch.
Er mwyn cael poblogaeth blanhigion darged o 11 planhigyn/m² defnyddir cyfradd hau o 12 hedyn/m².
Mae’n rhaid defnyddio hadwr trachywir er mwyn plannu’r hadau mewn dyfnder o 5cm mewn rhesi sydd fel arfer 75cm ar wahân.
Fel arfer, mae hadau a brynir wedi eu trin â ffwngleiddiad, pryfleiddiad a gellir ategu atalrym adar oherwydd y gall ydfrain ddifrodi cae yn ystod eginiad.
Dyddiad hau
Mae’r dyddiad hau yn dibynnu ar nifer o ffactorau, megis:
Mae tatws yn sensitif i rew felly ni ddylid eu plannu tan ar ôl rhew olaf y gaeaf.
Po fwyaf yw’r tatws had, y mwyaf tebygol ydynt o gynhyrchu blagur, ond gall nifer o gyffion o un gloronen gael effaith negatif oherwydd cystadleuaeth.
Gellir storio tatws had mewn awyrgylch sy’n caniatáu iddynt egino, h.y. dechrau tyfu.
Mae mathau gwahanol yn egino ar dymereddau gwahanol. Mae’n rhaid i bob math gael ei dyfu ar dymheredd o 4ºC neu uwch a bydd pob math yn tyfu’n gyflym neu’n ormodol ar dymheredd o 10ºC. Yn ddelfrydol, dylai’r eginyn fod yn 1.9-2.5cm o hyd pan fydd yn cael ei blannu. Mae manteision egino fel a ganlyn:
Dylid cymryd gofal wrth blannu cloron sydd wedi egino gan ei bod yn hawdd iawn difrodi’r egin. Dyma pam y bydd hadau’n parhau i gael eu hau â llaw mewn ardaloedd cynnar iawn megis Jersey.
Mae pwysau’r tatws had sydd i’w plannu i bob hectar yn dibynnu ar sawl ffactor:
Ar gyfer mathau sy’n cynhyrchu cloron mawrion, e.e. ‘Desiree’, y gyfradd hau gyffredin yw 2.5-4.5 tunnell/hectar.