English

Peirianneg
Adran 1 - Systemau Sylweddol a Chydrannau Allweddol y Tractor

Mae'r adnodd hwn yn addas i gefnogi cyrsiau Amaethyddiaeth Lefel 2.

Cynnwys

Mae’r uned yma ar adnabod systemau allweddol a chydrannau allweddol y tractor yn cynnwys gwybodaeth ar y canlynol:

  • Sesiwn 1 - Cylchred gweithredu’r peiriant tanio mewnol.
  • Sesiwn 2 – Sut i sicrhau bod y peiriant yn rhedeg yn esmwyth ac yn cynhyrchu cymaint o bŵer â phosib.
  • Sesiwn 3 – Y System Danwydd
  • Sesiwn 4 – Y System Oeri
  • Sesiwn 5 – Y System Iro
  • Sesiwn 6 – Y System Drydanol a Thanio
  • Sesiwn 7 – Y System Drawsyrru
  • Sesiwn 8 – Y System Hydrolig
  • Sesiwn 9 – Olwynion, teiars a breciau
  • Sesiwn 1
    Cylchred gweithredu’r peiriant tanio mewnol

    Peiriant Tanio Mewnol

    Math o beiriant gwres yw’r peiriant tanio mewnol, ac mae’r enw ‘peiriant gwres’ yn briodol oherwydd bod ynni gwres a gynhyrchir wrth losgi tanwydd yn cael ei newid yn ynni mecanyddol.

  • Defnyddir gwahanol fathau o danwydd mewn gwahanol fathau o beiriannau. Bydd y rhan fwyaf o beiriannau tractor yn defnyddio diesel yn danwydd mewn injan gynnau gywasgol (injan C.I.).
  • Mae’r peiriant yn debyg iawn i’r peiriant petrol neu’r peiriant anweddu olew, ond am fod gwasgeddau uwch a gwthiadau cryfach o fewn y peiriant, mae’n gorfod bod yn gryfach.
  • Mae’r prif ddarnau’n debyg iawn i’r rhai mewn mathau eraill o beiriant, ond eu bod yn gweithio ychydig yn wahanol. Yn lle bod cymysgedd aer / tanwydd yn mynd i’r silindr, dim ond aer sy’n mynd i mewn, a chaiff hwn ei gywasgu gymaint nes ei fod yn boeth iawn.
  • Mae’n mynd mor boeth fel y bydd yn cynnau tanwydd sy’n cael ei chwistrellu iddo, ac felly dyna pam y rhoddir yr enw injan gynnau gywasgol arno.
  • combustion engine

    Yr enw arferol ar y gyfres hon o ddigwyddiadau yw’r gylchred gweithredu, a bydd y rhan fwyaf o beiriannau tractor yn gweithio ar gylchred pedair strôc.

    Y Gylchred Pedair Strôc


    1. Y Strôc Anwythiad

    Mae’r piston yn symud i lawr; mae’r falf fewnfa’n agor ac mae’r falf wacáu ar gau. Wrth iddo symud i lawr, mae’r piston yn creu gwactod rhannol yn y silindr, a daw aer yn unig i mewn trwy’r falf fewnfa. Ar waelod y strôc mae’r falf fewnfa yn cau gan ddal yr aer yn y silindr.

    cartoon graphic of four engines, with an arrow above the first

    Y Gylchred Pedair Strôc


    2. Y Strôc Cywasgu

    Mae’r piston yn symud i fyny; mae’r falf fewnfa ar gau; mae’r falf wacáu ar gau. Wrth iddo symud i fyny mae’r piston yn cywasgu’r aer ac mae’n cyrraedd tymheredd uchel iawn - tua 1000°F. Mae hyn y digwydd am fod yr aer yn cael ei gywasgu i tua’r unfed ran ar bymtheg o’i gyfaint gwreiddiol.

    cartoon graphic of four engines, with an arrow above the second

    Y Gylchred Pedair Strôc


    3. Y Gwthiad

    Pan fydd y piston ar ben y strôc cywasgu, bydd tanwydd yn cael ei chwistrellu i’r silindr. Mae’r tanwydd yn cynnau ar unwaith pan ddaw i gysylltiad â’r aer poeth. Mae’r cymysgedd o danwydd / aer llosg yn ehangu ac yn gwthio’r piston i lawr y silindr.

    cartoon graphic of four engines, with an arrow above the third

    Y Gylchred Pedair Strôc


    4. Y Strôc Gwacáu

    Mae’r piston yn symud i fyny’r silindr; mae’r falf fewnfa ar gau; mae’r falf wacáu ar agor. Wrth iddo symud i fyny mae’r piston yn gwthio’r nwyon sydd wedi’u llosgi allan trwy’r porth gwacáu i’r atmosffer.

    cartoon graphic of four engines, with an arrow above the last
    cartoon graphic of four engines, with 'four stroke cycle engine' above it. Below each engine, respectively, is 'Intake', 'Compression', 'Combustion', 'Exhaust'

    Sesiwn 2


    Sut i sicrhau bod y peiriant yn rhedeg yn esmwyth ac yn cynhyrchu cymaint o bŵer â phosib

    Pam ei bod yn bwysig bod eich tractor yn cynhyrchu cymaint o bŵer â phosib ac yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon?

  • Lleihau’r defnydd o ynni
  • Arbed costau tanwydd
  • Lleihau’r amser y bydd y tractor yn segur
  • Achosi llai o wastraff
  • Sicrhau bod y tractor a’r offer yn para’n hirach
  • tractor on field with tractor equipment

    Offer sydd ar gael i’r gyrrwr

    Mae nifer o ffyrdd y gall gyrrwr reoli ac addasu’r dull o weithredu’r tractor, a dylai’r gyrrwr ddeall sut mae pob rheolydd yn ymateb, a phwrpas pob addasiad. O wneud hyn, bydd y gyrrwr yn fwy diogel, a bydd costau rhedeg y tractor yn is.

    electrical screens in tractor

    Cynhaliaeth

    Er mwyn defnyddio tractorau yn y modd mwyaf effeithlon mae’n holl bwysig eu bod yn cael eu cynnal a chadw’n rheolaidd yn ôl cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.

  • Mae’n bwysig hefyd fod pob gyrrwr yn cael ei hyfforddi yn unol ag argymhellion y gwneuthurwr. Mae’n hanfodol sicrhau bod digon o bŵer gan y tractor i wneud y gwaith dan sylw.
  • tractor on field half ploughed

    Dewis y Gêr Cywir

    Pan fyddwch yn defnyddio tractor, bydd dewis y gêr cywir ar gyfer y dasg yn effeithio’n sylweddol ar ba mor effeithlon y byddwch chi’n cyflawni’r dasg. Gellir dewis sawl gêr blaen ac ôl ar dractor modern.

    tractor gearsticks

    Gêr Cywir ar Gyfer Sefyllfaoedd Gwahanol

    Yr hyn sy’n pennu cyflymder tractor yn y cae yw’r offeryn fferm sydd wedi’i gysylltu ag ef, ac nid pŵer y tractor, er bod modd gwneud arbedion yn ôl sut y byddwch yn cyrraedd y cyflymder. Er mwyn i offer weithio’n gywir, mae gofyn bod injan y tractor yn troi hyn a hyn o weithiau y funud.

    tractor implement being attached

    Llethrau

    Er mwyn i’r injan gynnal y cyflymdra cywir bydd angen newid gêr i adlewyrchu newidiadau yn natur neu lethr y tir.

  • Wrth deithio i fyny neu i lawr llethrau dylid newid gêr cyn dechrau’r dasg. Wrth fynd i’r naill gyfeiriad neu’r llall, mae angen dewis gêr is er mwyn cadw’r tractor dan reolaeth a chynnal cyflymder yr injan.
  • image of steep hill

    Teithio Lawr Llethrau

    Er mwyn cadw’r tractor a chyflymder yr injan dan reolaeth wrth deithio i lawr llethr, defnyddiwch yr un gêr a ddewisoch chi i fynd i fyny’r llethr. Wrth wneud hyn byddwch yn sicrhau bod eich tractor yn cael ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithlon ac yn cynhyrchu cymaint o bŵer â phosib.

    Tir Garw

    Wrth deithio ar dir garw mae gofyn symud yn arafach tra’n cynnal cyflymder yr injan. Gwneir hyn trwy ddewis gêr is.

    image of rough, churned land

    Tir Gwlyb

    Bydd angen newid gêr hefyd wrth weithio ar dir gwlypach er mwyn ymateb i’r colli tyniant a’r lleihad posib yng nghyflymder yr injan.

    tractor wheel covered in mud

    Atodiadau ar Dractor

    Gallai’r hyn y bydd disgwyl i’r tractor ei wneud newid, e.e. wrth lwytho o’r ochr gyda chynaeafwr silwair.

  • Bydd pwysau’r llwyth a dynnir yn newid a bydd hyn yn effeithio ar berfformiad y tractor.
  • tractor  side loading from a forage harvester

    Tractor a Threlar Silwair

    Mewn cae gwastad, a chyda’r cynaeafwr yn wag, bydd hi’n hawdd i’r tractor drafod y llwyth. Wrth i’r trelar lenwi, ac er mwyn cynnal perfformiad diogel y tractor, bydd angen newid gêr er mwyn ymateb i’r cynnydd yn y pwysau a newid yn natur y tir.

    Gosodiadau Tanwydd Cywir

    Y gwneuthurwyr sy’n pennu gosodiad tanwydd y rhan fwyaf o dractorau ac, fel arfer, y gwerthwr fydd yn ei addasu. Bydd seliau ar y rhan fwyaf o dractorau er mwyn sicrhau na fydd unrhyw waith addasu’n cael ei wneud ar y fferm. Gallai ymyrryd â’r chwistrellwyr effeithio ar eich gwarantau.

    parked tractor with implementation attached

    Y Mwg a Ddaw o’r Bibell Wacáu

    Mae edrych ar y mwg a ddaw o’r bibell wacáu yn rhoi syniad da i chi o gyflwr gweithredu’r injan.

  • Gall mwg glas yn dod o injan CI fod yn arwydd o olew iro yn mynd heibio’r cylchau piston i’r siambrau tanio oherwydd bod y cyfeiryddion falfiau neu seliau siafft y tyrbochwythwr wedi’u treulio.
  • tractor with grey exhaust smoke

    Mathau o Fwg a Ddaw o’r Bibell Wacáu

  • Mae mwg gwyn yn cynnwys tawch tanwydd sydd heb ei losgi ac mae’n digwydd wrth i’r injan gam danio wrth gael ei grancio pan fydd y tymheredd yn isel.
  • Mae mwg du yn ymddangos os nad yw’r carbon yn cael ei losgi’n llwyr. Mae hyn yn cael ei achosi wrth i’r chwistrellwyr dreulio neu os yw tanwydd yn cael ei orgyflenwi i injans CI.
  • Llwyd golau yw lliw arferol mwg y rhan fwyaf o injans CI.
  • Rheoli Tymheredd

    Mae tymheredd gweithio injan, sy’n cael ei ddangos gan dymheredd yr oerydd, hefyd yn gallu effeithio ar bŵer ac effeithlonrwydd.

  • Pan fydd y rhan fwyaf o injans yn gweithio ar dymheredd uwch na 93°C bydd oerydd yn cael ei golli ac olew yn cael ei losgi.
  • Mae’r thermostat yn cadw tymheredd cyson yn awtomatig.
  • Dylai’r gyrrwr fonitro’r tymheredd a chymryd y camau iawn os bydd yn wahanol i’r hyn y bydd y gwneuthurwr yn ei argymell.
  • thermometer with sky in background

    Y Teiars yn Gwisgo

    Bydd teiars yn gwisgo wrth iddyn nhw gael eu defnyddio a dod i gysylltiad â’r elfennau.

  • Caiff clustiau’r teiars gyrru eu gwisgo wrth i’r olwyn lithro.
  • Gall ochrau teiars blygu a thorri os bydd y llwyth yn rhy drwm a/neu os na fydd digon o aer ynddynt.
  • Mae olew, ocsigen a golau haul yn gwneud i rwber gracellu, cracio a gwanhau. ​
  • image of parked tractor

    Sesiwn 3


    Y System Danwydd

    Y System Danwydd

    Mae system danwydd injan diesel yn cynnwys y prif ddarnau canlynol:

  • Glanhawr aer
  • Pwmp codi tanwydd
  • Ffilteri tanwydd
  • Pwmp chwistrelli tanwydd
  • Chwistrellwyr tanwydd
  • Glanhawyr Aer

    Mae angen glanhawr aer oherwydd wrth gyflawni rhai tasgau, e.e. trin y tir, gall yr aer fod yn frwnt iawn. Pe bai llwch a baw yn mynd i’r injan byddai’r falfiau, y pistonau a’r silindrau a’r holl ferynnau yn treulio’n gyflym iawn.

    harvester surrounded by dust

    Croniad Carbon

    Hefyd, gallai carbon gronni yn y siambrau tanio ac ar y falfiau. Byddai’r carbon hwn yn tywynnu’n goch ac yn amharu ar rediad yr injan.

    Mathau o Lanhawyr Aer

    Mae yna 2 math o lanhawyr aer:

  • Glanhawr bath olew
  • Glanhawr aer sych
  • image of air cleaner in tractor

    Y bath olew – glanhawr tri cham

  • Cam un – mae’r aer yn cyrraedd y gromen gyn-lanhawr ar dangiad ac mae hyn yn chwyldroi’r aer a’r baw gan daflu’r gronynnau trwm o faw allan trwy’r slotiau alldaflu llwch.
  • Cam dau – mae’r aer yn symud i lawr y bibell stac yn gyflym gan chwythu’r llwch yn yr aer i’r olew lle caiff ei ddal.
  • Cam tri – mae’r aer yn pasio trwy rwyllen sydd wedi’i thampio ag olew, ac mae hon yn dal unrhyw faw a allai fod wedi dianc o’r bath olew. Mae’r aer yn symud oddi yma trwy bibell rwber i’r faniffold fewnfa ac yna i’r injan.
  • Cynnal y Ffilter Bath Olew

    Er mwyn cynnal a chadw’r math hwn o lanhawr dylech lanhau’r gromen yn aml, tynnu’r bath olew a glanhau’r bibell stac.

  • Draeniwch yr hen olew, glanhewch y bowlen ac ail-lenwch hi i’r lefel gydag olew newydd, golchwch y rhwyllenni gyda pharaffîn ac, os bydd modd, chwythwch unrhyw baraffîn sydd dros ben i fwrdd gyda llinell aer, neu gadewch y paraffîn i ddiferu i ffwrdd.
  • Ailosodwch y ffilter.
  • Gwiriwch gyflwr y bibell a’r cysylltiadau rhwng y ffilter a’r injan er mwyn sicrhau nad oes unrhyw graciau yn y bibell a’i bod yn dynn.
  • Ffilter Aer Math Elfen Sych

    Mae’n cynnwys elfen y gellir ei newid ac sydd wedi’i gwneud o ddefnydd papur cwyr. Rhaid ei newid pan fydd yn llawn baw. Mae gan rai tractorau fonitor gweledol wedi’i osod yn system anwythiad yr injan sy’n eich rhybuddio bod y ffilter yn llenwi.

    tractor being loaded with dust around

    Sut ydym yn gwybod os yw'r glanhawr aer wedi ei lenwi?

    Mae mwg du yn dod o’r bibell wacáu yn arwydd sicr bod y glanhawr aer wedi ei rhannol lenwi. Mae’n dangos nad yw’r injan yn derbyn digon o aer. Mae glanhawr sydd heb ei gynnal yn gywir yn rhwystro aer rhag mynd i’r injan gan achosi i’r injan losgi gormod o danwydd, colli pŵer a a threulio’n gyflym.

    black smoke from tractor exhaust

    Cyn-lanhawyr

    Diben cyn-lanhawyr yw gwaredu gronynnau mawr cyn iddyn nhw gyrraedd elfen y glanhawr.

    Tyrbochwythwyr

    Dyma fath o chwythwr sy’n defnyddio nwyon gwacáu poeth o’r injan i yrru ffan sydd yn ei thro yn gyrru ffan arall sy’n tynnu aer o’r glanhawr aer gan wasgu rhagor o aer i’r silindrau. Gallai hyn gynyddu pŵer y tractor gymaint â 30%.

    tractor with turbocharger attached

    Pwmp Codi Tanwydd

    Fel arfer, caiff pwmp codi tanwydd ei osod ar linell danwydd y system danwydd diesel. Mewn injan diesel bydd y pwmp codi yn anfon tanwydd i’r pwmp chwistrellu ar wasgedd cyson. Mae’r gwasgedd hwn hefyd yn helpu i wthio’r tanwydd trwy elfennau’r ffilter cyn iddo gyrraedd y pwmp chwistrellu.

    Camsiafft

    Caiff y pwmp ei yrru gan gam ar gamsiafft yr injan fel ei fod yn pwmpio’n ddi-baid pan fydd yr injan yn rheded. Mae rhwyllen ffilter yn y pwmp sy’n casglu baw a lleithder.

    tractor in field

    Ffilteri tanwydd

    Defnyddir un neu fwy o ffilteri tanwydd i ffiltro’r tanwydd wrth iddo gael ei bwmpio o’r pwmp codi i’r pwmp chwistrelli. Mae’r ffilteri hyn yn hollol hanfodol er mwyn sicrhau na fydd unrhyw faw yn cyrraedd y pwmp chwistrellu neu’r chwistrellwyr

  • Mae’r pwmp yn gynhwysydd metel sy’n dal elfennau ffiltro sydd wedi’i wneud naill ai o ddefnydd, ffelt neu bapur, a rhaid i’r tanwydd basio trwy’r elfennau hyn. Caiff baw yn y tanwydd ei ddal ar arwyneb yr elfennau.
  • Ffilteri tanwydd wedi eu llenwi

    Ymhen amser caiff yr elfennau hyn eu llenwi â baw a bydd rhaid eu newid. Mae’r cyfnod cyn bod rhaid newid gwahanol fathau o elfennau yn amrywio ond, fel arfer, dylid eu newid ar ôl i’r injan fod ar waith am 200 i 400 awr.

    Y Pwmp Chwistrellu Tanwydd

    Defnyddir dau brif fath o bwmp chwistrellu tanwydd – pwmp math plymiwr a phwmp math dosbarthydd. Gyda’r ddau fath o bwmp cyflymir yr injan drwy ddefnyddio sbardun sy’n cynyddu’r cyflenwad o danwydd i’r injan.

    fuel injection pump

    Pwmp Plymiwr

    Mae’r pwmp math plymiwr a ddefnyddir mewn injan pedwar silindr yn cynnwys pedair uned bwmpio, a bydd pob un yn bwydo chwistrellwr sy’n chwistrellu tanwydd i’r silindr.

  • Bydd y pwmp math dosbarthydd yn defnyddio un rotor i bwmpio a dosbarthu tanwydd i bob chwistrellwr yn ei dro.
  • Y Chwistrellwr Tanwydd

    Diben y chwistrellwr yw chwistrellu ychydig iawn o danwydd i’r silindr. Rhaid i’r chwistrelliad fod yn fân iawn, a gwneir hyn trwy wasgu’r tanwydd trwy dyllau mân iawn ym mhen y chwistrellwr.

    Y Rheolydd

    Mae rheolydd yn atal difrod i injan oherwydd gor-gyflymu, ac yn rheoli cyflymdra unrhyw beiriant y bydd yr injan yn ei yrru.

    close up of governor

    Mathau o Reolydd


    Rheolydd mecanyddol

    Sy’n ymateb yn gyflym iawn i unrhyw newid mewn llwyth, ac felly’n cadw cylchdroadau’r injan yn eithaf cyson.

    Mathau o Reolydd


    Rheolydd Niwmatig

    A osodir mewn pympiau chwistrellu llinellol, ond sy’n tueddu ymateb yn arafach gan wneud i gylchdroadau’r injan arafu neu gyflymu yn sylweddol cyn iddyn nhw gywiro a sefydlogi.

    Sesiwn 4


    Y System Oeri

    Y System Oeri

    Gall y tymheredd a gynhyrchir adeg gwthiad injan diesel fod mor uchel â 1600’C, ac mae hyn yn uwch nag ymdoddbwynt y darnau hynny o’r injan y bydd y gwres yn eu cyffwrdd. Felly, mae’n hanfodol cael system oeri effeithlon.

    tractor in field

    Colled Gwres

    A bwrw bod gwerth gwres gwreiddiol y tanwydd yn 100%, yna defnyddir 30% ohono i gynhyrchu gwres, aiff 40% ohono i’r atmosffer trwy’r bibell wacáu, a gwasgerir 30% ohono gan y system oeri. Mae olew y system iro hefyd yn gwaredu rhywfaint o wres.

    tractor in field

    Gorboethi

    Mae’n bwysig iawn nad yw’r injan yn gorboethi nac yn ‘berwi’r dŵr’, ond mae’r un mor bwysig nad yw’r injan yn rhedeg yn rhy oer neu bydd y tanwydd yn methu ag anweddu’n gywir, gan achosi difrod a thraul cyflym i’r injan.

    engine with smoke coming out

    Oeri gan Aer

    Dyma’r dull a ddefnyddir fel arfer ar gyfer injans un silindr bach, fel y rhai ar beiriannau garddwriaethol, neu’r rhai a welir ar ffermydd yn gyrru pethau fel codwyr.

  • Mae peiriannau’n cael eu hoeri wrth gyfeirio llif cryf o aer o gwmpas esgyll (fins) y silindr a phen y silindr. Mae’r aer oer sy’n symud dros arwynebedd mawr yr esgyll yn gwasgaru’r gwres.
  • Sut mae oerwyr aer yn gweithio?

    Cynhyrchir y llif cryf gan ffan chwythu ar chwylrod yr injan, sydd mewn cwfl sy’n ymestyn dros ac o gwmpas y silindr. Mae’r chwythwr yn tynnu aer i mewn ac yn ei gyfeirio dros y silindr er mwyn ei oeri. Mae Ffig. 14 yn dangos y gosodiad arferol ar gyfer oeri gydag aer.

  • Bydd y math hwn o injan yn gorboethi os bydd y blylchau rhwng yr esgyll yn llenwi â baw.
  • Oeri gan aer mewn tractor John Deere

    image of John Deere air cooler

    Gan deere.com

    Oeri gan ddŵr

    Caiff y rhan fwyaf o injans tractor eu hoeri gan ddŵr. Mae’r dull hwn yn well ar gyfer oeri injans aml-silindr.

    Sut mae injans oeri gan ddŵr yn gweithio?

    Mae silindrau’r injan wedi’u hamgylchynu’n gyfan gwbl gan siaced ddŵr sydd hefyd yn mynd i mewn i ben y silindr, ac mae pibell rwber yn cysylltu’r allfa ar ben y silindr i ben y rheiddiadur. Er mwyn i’r dŵr fedru llifo, mae pibell arall o allfa ar waelod y rheiddiadur yn mynd â’r dŵr yn ôl i’r siaced ddŵr o gwmpas y silindr.

    Rheiddiadur

    Rhaid cael rheiddiadur er mwyn sicrhau bod yr arwynebedd mwyaf posib yn dod i gysylltiad â’r llif aer a gynhyrchir gan y ffan.

  • Mae rheiddiadur yn cynnwys tanc y bydd ei ben uchaf a’i ben isaf wedi’u cysylltu gan lawer o tiwbiau tenau y bydd y dŵr yn llifo drwyddynt.
  • Rheiddiadur

    Mae’r tiwbiau hefyd yn cyffwrdd â llawer o blatiau metel tenau sy’n cynyddu’r arwynebedd ymhellach. Mae’r rheiddiadur cyfan yn debyg i grwybr (honeycomb) y gall aer lifo drwyddo.

  • Y tu ôl i’r rheiddiadur a’r tublaen i’r injan mae ffan sy’n cael ei yrru gan bwli ar grancsiafft yr injan.
  • radiator with labelled inlet manifold, fin and tubes, and outlet manifold

    Cylchrediad dŵr

    Unwaith y bydd yr injan wedi’i thanio, mae’r silindrau’n cynhyrchu gwres sy’n cael ei drosglwyddo i’r dŵr sy’n eu hamgylchynu. Mae dwysedd dŵr yn lleihau wrth iddo gael ei boethi. Mewn geiriau eraill, mae dŵr cynnes yn ysgafnach na dŵr oer, ac o ganlyniad mae’r dŵr cynnes yn codi i ben uchaf y rheiddiadur.

    Sut mae’n gweithio?

    Yna, mae dŵr oerach o ben isaf y rheiddiadur yn cymryd ei le. Enw’r symudiad naturiol hwn o ddŵr yw thermoseiffon.

  • Wrth i’r dŵr poeth lifo i diwbiau’r rheiddiadur mae’n colli gwres i’r atmosffer gyda chymorth y llif o aer oerach a dynnir trwy grwybr y rheiddiadur gan y ffan.
  • Y Pwlsadur

    Mae cylchrediad thermoseiffon, ar ei ben ei hun, yn annigonol i injan fodern, ac felly mae angen defnyddio pwlsadur i gryfhau llif y dŵr. Mae’r pwlsadur yn ddisg metel gydag esgyll o gwmpas un o’i ochrau, sy’n cael ei roi yn y system oeri a’i yrru gan siafft y ffan. Wrth iddo gylchdroi mae’r tynnu dŵr oerach o waelod y rheiddiadur, gan hybu’r cylchrediad.

    Y Thermostat

    Mae’r thermostat yn helpu i reoli tymheredd y dŵr ger y silindrau. Mae’n ddefnyddiol pan fo injan oer yn cael ei thanio, neu pan fydd rhaid iddi segura (rhedeg yn araf) am gyfnod hir.

    Thermostat

    Math o falf awtomatig yn y bibell allfa sy’n cysylltu pen y silindr â phen uchaf y rheiddiadur yw thermostat. Mae’n cyfyngu ar lif y dŵr i’r rheiddiadur nes bod y dŵr yn y bloc silindr wedi cyrraedd tymheredd sy’n galluogi’r injan i weithio’n effeithlon.

    Y Bloc Silindr

    Yn ôl tymheredd y dŵr, caiff y llif ei atal, ei gyfyngu, neu’i adael i lifo’n rhydd.

  • Am fod cyfaint y dŵr yn y bloc silindr yn llawer llai na’r hyn sydd yn y system oeri gyfan, gall y dŵr oer gynhesu’n gyflym.
  • Y Pwmp Dŵr

    Pan fydd y thermostat ar gau mae’r pwmp dŵr yn cylchdroi’r dŵr yn y bloc; defnyddir teclyn dargyfeirio yn y cylched i hybu’r llif mewnol hwn. Ar ambell injan mae’r thermostat yn agor a chau’r cylched dargyfeirio hwn. Mae’r cylchrediad mewnol hwn yn atal mannau poeth lleol, a allai niweidio rhannau o gastinau’r injan, rhag ffurfio.

  • Tua 90°C (194°F) yw tymheredd gweithio addas injan, a dylid cadw’r tymheredd hwn yn gyson, os yn bosib.
  • Sesiwn 5


    Y System Iro

    Y System Iro

    Diben system iro yw atal difrod i ddarnau symudol y tractor. Pan mae darnau tractor yn cael eu cynhyrchu, maen nhw’n edrych yn llyfn iawn ond, mewn gwirionedd, os edrychwch chi arnyn nhw trwy ficrosgop byddant yn edrych yn anwastad.

    tractor in field

    Ffrithiant

    Wrth i ddau wyneb rwbio’n erbyn ei gilydd maen nhw’n cynhyrchu gwres (ffrithiant), a phe bai’r gwres yn ddigon uchel gallai’r wynebau hyn doddi ac asio wrth ei gilydd.

    close up of tractor equipment

    Prif nod y system iro

    Prif ddiben iro yw rhoi ffilm o olew rhwng wynebau metel y darnau symudol er mwyn oeri effaith ffrithiant ac felly amddiffyn y wynebau.

    close up of two parts of the tractor which rub against each other

    Dulliau o iro

    Mae yna 2 brif math o iro mewn injans tractor:

  • Iro Tasgu
  • Iro dan Bwysedd
  • tractor working the field

    Iro Tasgu

    Mae’r iro’n cael ei wneud gan olew yn tasgu. Ceir ‘dipiwr’ ar ben capan y pan mawr. Bydd y dipiwr yn dipio i’r cafn cul o olew sydd yn union oddi tano, ac mae’n taflu neu dasgu olew dros y darnau injan sydd yn crancio (y pen mawr, y pen bach, berynnau’r crancsiafft, y camsiafft a’r gerau amseru).

    Iro dan Bwysedd

    Mae’n bwydo olew i’r darnau. Mae’r system hon yn cynnwys pwmp (pwmp gêr, fel arfer), hidlen olew mewnfa pwmp, falf gollwng pwysedd, a ffilter allanol, (weithiau’n ffilter magnetig), llwybrau olew i’r gwahanol ferynnau, a medrydd pwysedd olew.

    Sut mae iro dan bwysedd yn gweithio?

    Pan fydd yr injan yn rhedeg mae’r pwmp gêr, sy’n cael ei yrru gan y camsiafft, yn tynnu olew i mewn trwy’r hidlen fewnfa olew ac yn ei bwmpio i’r ffilter olew allanol. Mae’r hidlen fewnfa olew yn atal gronynnau mawr o faw neu fetel rhag cyrraedd a difrodi’r pwmp, ac mae’r ffilter allanol yn tynnu unrhyw ronynnu bach o grit neu garbon o’r olew.

    Sut mae iro dan bwysedd yn gweithio?

    Yna bydd yr olew yn teithio trwy galerïau olew a thyllau i iro berynnau’r crancsiafft a’r camsiafft, y pennau mawr, y gerau amseru a mecanweithiau’r falfiau cyn dychwelyd i’r swmp i gylchdroi eto.

    Sut mae iro dan bwysedd yn gweithio?

    Gan fod cyflymdra’r pwmp yn amrywio yn ôl cyflymdra’r injan, bydd pwysedd yr olew yn amrywio, a gallai fynd yn rhy uchel. Os digwydd hyn bydd y falf gollwng pwysedd yn agor a bydd yr olew sydd dros ben yn dychwelyd i’r swmp, tra bod olew yn dal ei gael ei bwmpio trwy’r ffilter allanol.

    Sut mae iro dan bwysedd yn gweithio?

    Mae pibell yn mynd o’r prif galerïau i fedrydd pwysedd olew ar forden flaen (dashboard) y tractor. Mae golau pwysedd olew, yn lle medrydd, ar rai tractorau. Mae hwn wedi ei gysylltu â switsh synhwyro pwysedd ym mhrif galeri olew’r injan.

    Ffilteri Olew

    Mae ffilteri olew yn cael eu rhoi yn y system er mwyn atal y rhan fwyaf o’r halogyddion rhag cyrraedd rhannau symudol yr injan. Mae rhwyllen fetel dros y twll llenwi olew er mwyn atal unrhyw faw trwm rhag mynd trwodd. Mae rhwyllen fetel dros y twll llenwi olew er mwyn atal unrhyw faw trwm rhag mynd trwodd.

    stock photo of oil filter

    Ffilteri olew

    Mae hidlen o gwmpas mewnfa’r pwmp olew er mwyn rhwystro gronynnau mawr rhag cyrraedd y pwmp. Gallai ffilter magnetig gael ei osod wrth y pwmp, neu’n agos ato. Mae’n cael ei osod yn y swmp, ac mae gronynnau o haearn neu ddur yn glynu wrtho. Mae gan injans modern â systemau iro dan bwysedd elfennau ffilter allanol y gellir eu newid.

    stock photo of oil filter

    Mathau o Ffilteri Olew

    Mae dau brif fath o ffilter:

  • 1. Ffilteri y gellir newid eu helfennau. Mae’r ffilter mewn casin y gellir ei dynnu i ffwrdd. Mae’r casin wedi’i selio ar y top a’r gwaelod gyda chylchoedd rwber, ac mae bollt ganolog yn ei gadw yn ei le.
  • 2. Ffilteri cetrisen y gellir ei newid trwy ddadsgriwio’r uned gyfan o’r injan a sgriwio uned newydd, sydd â sêl rwber arni, â llaw.
  • stock photo of oil filter

    Ffilter olew sylfaenol

    stock photo of oil filter

    Sesiwn 6


    Y System Drydanol

    Y System Drydanol a Thanio

    Mae batri gan bob tractor.

  • Mae angen batri er mwyn gweithio’r goleuadau, yr offer rheoli trydan ac, yn bwysicach oll, i gychwyn yr injan. Mae’r batri’n storio ynni trydanol ar ffurf gemegol, a phan fydd ei angen, gellir rhyddhau’r ynni.
  • stock photo of tractor battery

    Y Batri

    Mae nifer o gelloedd ym mhob batri, pob un ohonynt gyda phwysedd trydanol o tua 2V. Mae’r batri’n cynnwys platiau POSITIF (plwm perocsid), a phlatiau NEGATIF (plwm). Mae cell yn cynnwys nifer o blatiau tebyg sydd wedi eu hasio i’w gilydd.

    stock photo of tractor battery

    Batri Tractor

    Mae’r cyfan mewn casin batri gyda fent arno fel bod modd gwirio lefel yr electrolyt, a gadael i nwyon ddianc. Mae gan fatri defnydd trwm fwy o blatiau na batri defnydd ysgafn.

    stock photo of tractor battery

    Yr Eiliadur

    Mae mwy a mwy o offer trydanol yn cael eu defnyddio mewn peiriannau modern, ac mae hyn yn gosod y batri a’r cylchedd gwefru dan gryn straen. Gall eiliadur gyflenwi mwy o gerrynt trydanol pan fydd yr injan yn troi’n araf.

    Yr Eiliadur

    Mae eiliadur yn defnyddio’r un egwyddor â dynamo, h.y. cynhyrchu trydan wrth dorri maes magnetig gyda choil gwifren. Mae’r dynamo yn gwneud hyn drwy symud y dargludydd neu’r coil trwy faes magneteg sefydlog, ac mae gan yr eiliadur faes magneteg symudol (magnet sy’n cylchdroi) mewn dargludydd sefydlog. Mae hyn yn cynhyrchu cerrynt eiledol (A.C.) a newidir i gerrynt union (D.C.) cyn cael ei ddefnyddio.

    Y Dynamo

    Diben dynamo yw:

  • Cyflenwi’r trydan y bydd ei angen ar y cerbyd.
  • Gwefru’r batri.
  • stock photo of tractor battery

    Sut mae dynamo yn gweithio?

    Coil gwifren, a elwir yn armatwr, yw’r dynamo, ac mae’n cael ei gylchdroi rhwng polau magnetig. Wrth i’r armatwr gylchdroi cynhyrchir foltedd ac mae hwn yn mynd i’r cymudadur. Mae brwshys yn rhwbio’n erbyn y cymudadur ac yn trosglwyddo’r trydan i wifrau’r cylched drydan.

    Y Peiriant Cychwyn

    Magneteg yw sylfaen y peiriant cychwyn, ac o safbwynt ei wneuthuriad, mae’n debyg iawn i ddynamo. Mae ganddo goil gwifren, armatwr a brwshys, ond mae’n gweithio i’r gwrthwyneb i ddynamo.

    stock photo of starter motor

    Dynamo y peiriant cychwyn

    Caiff y dynamo ei yrru gan injan, ac mae’n cynhyrchu cerrynt sy’n llifo i’r batri. Os caiff y peiriant cychwyn ei ddefnyddio’n ddi-baid, a’r injan heb danio, caiff y batri’i ddisbyddu’n gyflym iawn.

    starter motor dynamo

    Sut mae’r peiriant cychwyn yn troi’r injan?

    Mae’r peiriant cychwyn yn gadarn er mwyn ei alluogi i gario’r cerrynt cryf angenrheidiol i gynhyrchu trorym (torque) digonol i droi’r injan.

    diagram of starter motor taken from a textbook

    Sut mae’r peiriant cychwyn yn troi’r injan?

    Daw siafft y peiriant cychwyn, a’r coiliau armatwr sydd o’i hamgylch, allan o’r casin. Gosodir dyfais fecanyddol ar ben y siafft sy’n cydio yn y chwylrod er mwyn ei throi.

    diagram of starter motor taken from a textbook

    Cychwyn yr injan

    Pan droir y peiriant cychwyn mae cerrynt yn llifo trwy’r armatwr a’r coiliau gwifren, ac mae’r armatwr yn cylchdroi’n gyflym. Mae hyn yn gwneud i’r llawes edau fras droi hefyd oherwydd bod rhigolau ynddi sy’n ei chysylltu â siafft yr armatwr. Mae edau y tu mewn i’r piniwn, ac wrth i’r llawes edau fras gylchdroi mae’r piniwn yn symud mewn llinell syth nes ei fod wedi masgio (mesh) gyda chylch danheddog y chwylrod.

    Symudiad y Piniwn

    Mae’r piniwn yn symud mewn llinell syth oherwydd ei fod yn methu â chylchdroi’n gyflym gyda’r llawes. Felly mae’n masgio’n syth â chylch y chwylrod ac yn dod yn erbyn y sbring atal. Mae’r sbring atal hwn yn rhwystro’r piniwn rhag symud yn fwy mewn llinell syth, felly mae’n gorfod cylchdroi, ac wrth wneud hyn mae’n troi chwylrod fel y gall yr injan gychwyn. Cyn gynted ag y bydd yr injan wedi dechrau, a switsh y peiriant cychwyn yn rhydd, bydd cylch danheddog y piniwn yn gyrru’r piniwn, ac felly bydd y piniwn yn cael ei sgriwio yn ôl o’r llawes ac yn erbyn y sbring byffer.

    Switshis Trydanol

    Solenoids yw’r rhain, ac maen nhw’n cael eu defnyddio’n aml mewn cylchedau trydanol sy’n defnyddio peiriannau cerrynt uchel. Er mwyn cario cerrynt uchel rhaid defnyddio cebl trwchus a thrwm sy’n gostus ac yn amsugno ynni ar ffurf colledion gwres.

    Switshis Solenoid

    Mae switsh solenoid yn cael ei osod i gau neu agor y cylched, ac mae modd gweithredu’r solenoid hwn gyda switsh ysgafn tebyg i’r hyn a welir ar banel rheoli tractor modern.

    image of tractor control panel

    Beth yw Solenoid?

    Mae’r solenoid yn cynnwys craidd haearn meddal sy’n rhydd, sy’n cael ei osod ar un pen coil gwifren. Mae polaredd y coil a’r craidd yn debyg ac felly os anfonir cerrynt trwy’r coil mae’r craidd yn cael ei dynnu i ganol y coil oherwydd bod polaredd polau cyfagos yn wahanol.

    solenoid

    Sut mae switsh yn gweithredu gan ddefnyddio solenoid?

    Bydd y switsh trydan yn gweithio wrth ddefnyddio’r symudiad hwn i gau dau gysylltiad y cebl trwm yn gyflym iawn. Mae sbring yn y switsh sy’n gyrru’r craidd yn ôl i’w safle gwreiddiol ar ôl rhyddhau’r switsh.

    solenoid

    Sesiwn 7


    Y System Trawsyrru

    System Trawsyrru

    Mae system drawsyrru tractor yn cynnwys:

  • Y cydiwr (clutch)
  • Y gerbocs
  • Y differyn
  • Dyfais ar gyfer lleihau’r gêr terfynol
  • Y Cydiwr​

    Mae’r cydiwr yn y trên pŵer wedi’i osod yn union ar ôl chwylrod yr injan. Mae’n ddyfais sy’n cysylltu’r injan a gweddill y system. Gallai cydiwr tractor weithio’n sych neu redeg mewn olew (yn wlyb).

    Y Clydiwr Gwlyb

    Fel arfer, mae gan y cydiwr gwlyb fwy nag un plât; hynny yw, mae ganddo fwy nag un disg gyrru. Gallai sbringiau neu gysylltiad traws-ganol sicrhau bod y cydwyr mewn cysylltiad. Pwysedd hylif sy’n cadw cydwyr hydrolig mewn gêr.

    Y Clydiwr Sych

    Mewn cydiwr sengl sych, mae’r cydiwr yn cael ei gysylltu â chwylrod yr injan fel ei fod yn cylchdroi gydag ef. Mae plât ffrithiant wedi’i sbleinio i siafft y cydiwr. Gwneir y sbleiniau drwy dorri rhigolau hirsgwar ar hyd rhan o’r siafft. Os yw’r sbleiniau yn cael eu torri yng nghanol y plât cydiwr, gellir cyplu’r rhain â’r siafft fel y bydd yn llithro ar hyd y siafft, ond yn cylchdroi gyda hi o hyd.

    image of john deere transmission system seen overlayed on tractor

    Chwyldrod (Flywheel)

    Mae’r siafft fewnbwn yn cael ei gosod mewn beryn yng nghanol y chwylrod, a rhoddir y plât rhwng wyneb y chwylrod a phlât pwysedd sbring-lwythog.

    image of john deere transmission system seen overlayed on tractor

    Sut i drawsyrru’r gyriant o’r injan?

    Er mwyn trawsyrru’r gyriant o chwylrod yr injan i’r siafft cydiwr sy’n mynd yn uniongyrchol i’r gerbocs, does ond angen gadael i’r plât cydiwr gael ei gydio rhwng wynebau’r chwylrod a’r plât pwysedd.

    image of john deere transmission system seen overlayed on tractor

    Enghraifft o system drawsyrru (Offer Fferm Sylfaenol)

    Black and white graphic of tractor outline with Engine, Clutch, Differential, Power take off, epicyclic reduction unit, main gearbox, high/low gearbox, front-wheel drive differential labelled

    Sut i drawsyrru’r gyriant o’r injan?

    Mae pwysedd trwm y sbring yn ddigonol i wneud hyn a sicrhau gyriant sicr i’r siafft. Er mwyn llacio’r pwysedd ar y sbring does ond angen gwasgu pedal troed y cydiwr sy’n gwthio’r gwrthferyn ymlaen, ac mae hyn, yn ei dro, yn llacio’r pwysedd a’r gafael rhwng y plât pwysedd a’r chwylrod, ac yn stopio’r gyriant i siafft y cydiwr.

    image of hand on steering wheel

    Y Gerbocs

    Prif bwrpas y gerbocs yw lleihau cyflymdra’r gyriant o grancsiafft yr injan cyn anfon y gyriant i olwynion ôl y tractor. Bydd hefyd yn newid y gymhareb cyflymder yn ôl y gofyn. Gellir defnyddio’r gerbocs i wrthdroi’r tractor, a thrwy ddefnyddio’r cydiwr, gellir stopio’r olwynion heb stopio’r injan. ​

    graphic of cogs

    Y Differyn

    Daw gyriant yr injan mewn llinell syth sy’n dilyn crancsiafft yr injan. Er mwyn gyrru olwynion ôl y tractor gyda gyriant o’r injan rhaid i’r gyriant fod ar ongl sgwâr i’r llinell hon.

    Y Piniwn Befel

    Mae siafft allbwn y gerbocs yn ymestyn ychydig y tu allan i’r gerbocs, ac mae gêr danheddog - piniwn befel - wedi’i osod ar ei phen. Mae’r piniwn hwn wedi’i fasgio â gêr befel arall - y goronrod.

    Uned y Differyn

    Er mwyn i hyn ddigwydd defnyddir differyn sy’n sownd yn y goronrod. Daw anfantais y differyn i’r amlwg pan fydd tractor yn aredig ac mae un o’r olwynion yn llithro ar arwyneb gwlyb. Er mwyn osgoi hyn, mae clo differyn wedi’i osod ar y tractor sy’n sicrhau bod y ddwy olwyn yn cydsymud mewn llinell syth.

    Beth yw swyddogaeth y goronrod?

    Mae hon yn gwneud tri pheth:

  • Newid cyfeiriad y gyriant
  • Lleihau cyflymdra
  • Gadael i’r naill olwyn yrru gylchdroi’n gyflymach neu’n arafach na’r llall wrth droi corneli.
  • image of tractor steering wheel

    Y Differyn

    diagram of differential with crown wheel, differential housing, reduction shaft gears, rear axle and final drive gears, differential gears, pinion and From gearbox labelled

    Gêr Lleihau Terfynol

    Mae gan bob gerbocs ryw ddull o leihau gêr lle mae’r gyriant yn gadael uned y differyn a chyn iddo gyrraedd yr olwynion. Dyma ddwy enghraifft:

  • Lleihau Sbardun.
  • Lleihau Episeiclig.
  • Gêr Lleihau Terfynol


    Lleihau sbardun

    Gosodir sbardun bach, a gysylltir ag olwyn gêr sbardun mawr sydd ar ben pellaf yr echel ôl, ar yr hanner siafftiau sy’n dod o’r differyn.

    Gêr Lleihau Terfynol


    Lleihau episeiclig

    Lle mae’r gyriant o’r differyn yn mynd i mewn i becyn gerau episeiclig sy’n lleihau’r gyriant i gyflymdra’r olwynion.

    Sesiwn 8


    Y System Hydrolig

    Y System Hydrolig

    Prif ddiben hon yw gyrru offer sy’n trin tir naill ai ar yr arwyneb neu o dan yr arwyneb. Hefyd, gall gyflenwi pŵer i bistonau allanol neu foduron ar beiriannau cynaeafu, peiriannau codi clawdd neu dorri ffos, ac ati.

    tractor with slurry attachment

    Y Pwmp Gêr

    Mewn system hydrolig tractor mae’r pwmp sy’n cyflenwi olew i silindr y piston fel arfer yn bwmp gêr a yrrir gan yr injan neu ryw ran o’r system drawsyrru. Gall gynhyrchu cymaint â 910 kg (tua 2000 pwys) o bwysedd.

    close up of back end of tractor with attachment added

    Rheolyddion Cab Hydrolig

    Mae angen i systemau felly reoli’r llif olew fel na chynhyrchir gormod o bwysedd, felly defnyddir falfiau diogelu. Bydd gyrrwr y tractor yn codi neu’n gostwng y teclyn drwy ddefnyddio’r lifer rheoli sydd wrth ei sedd. Mae symud y lifer yn gweithio falf sy’n rheoli’r llif olew i silindr y piston.

    controls such as gears in tractor cab

    Ffiltro Olew

    Caiff yr olew sy’n mynd i’r pwmp ei ffiltro, fel arfer gan ffilter rhwyllen a ffilter magnetig. Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd gall y gronyn lleiaf o faw neu fetel achosi difrod sylweddol i ddarnau hanfodol y system. Wrth newid yr olew yn y system hydrolig, dylid sicrhau bod popeth yn hollol lân.

    Y Cysylltedd Tri Phwynt

    Mae’r cysylltedd tri phwynt a ddangosir yn cynnwys dau bwynt cysylltu isel sydd wedi’u pifodi o dan echel ôl y tractor, a phwynt cysylltu uchel sydd wedi’i bifodi ar ben amgaead yr echel ôl. Mae’r pwyntiau cysylltu isaf wedi’u cysylltu â’r breichiau ôl gan rodenni codi.

    three-point linkage

    System Hydrolig Syml

    simple hydraulic system with top link, lifting rod, lifting arms, ram, cylinder, operating lever, pump, pump inlet filter, oil sump, adjustable lifting rod, and lower link arm labelled

    Sut mae codi a gostwng y breichiau cysylltu isaf?

    Mae gwthio olew i’r silindr yn gwthio’r piston yn ôl sydd, yn ei dro, yn gorfodi breichiau codi i symud i fyny. Os gellir dal yr olew yn y silindr, bydd yn dal unrhyw bwysau sy’n hongian wrth y breichiau cysylltu, a gellir gostwng y pwysau drwy adael i’r olew ddianc o’r silindr pan fo angen.

    Falfiau Hydrolig

    Gwneir hyn gyda chymorth falfiau yn y system sy’n cael eu gweithredu gan lifer llaw neu’n awtomatig. Gosodir y pennau’r breichiau cysylltu a’r pwynt cyswllt uchaf ar y teclyn. Mae’r uniadau pelen neu’r pinnau hyn naill ai’n rhai Categori 2, sydd â diamedr o 28mm (11/8 mod.) neu’n rhai categori 3, sydd a diamedr o 35mm (17/16 mod.).

    back end of tractor

    Tapiau Hydrolig Ategol

    Mae system hydrolig y tractor yn ffynhonnell ddefnyddiol o bŵer hydrolig ar gyfer teclynnau, neu rannau o declynnau, a gysylltir o bell â’r tractor. Fel arfer, defnyddir y pŵer hwn i yrru moduron hydrolig a threlars tipio hydrolig, peiriannau blaen-lwytho, peiriannau ôl-lwytho a pheiriannau torri ffosydd.

    tractor with front attachment lifted

    Tapiau Hydrolig Ategol

    Mae mannau tapio ar y rhan fwyaf o dractorau modern, lle gellir cysylltu pibellau hyblyg, i drosglwyddo olew o’r pwmp hydrolig i biston a silindr allanol a osodir ar y teclyn. Wedyn, gellir defnyddio’r pwysedd olew i yrru’r piston er mwyn codi neu ostwng darnau o’r teclynnau.

    tractor in field with attachment

    Tipio trelar

    Er enghraifft, mewn trelar tipio, mae pibell hyblyg yn cysylltu uniad allfa hunanseliol ar y tractor â phiston a silindr o dan gorff y trelar. Wedyn gellir codi corff y trelar drwy symud y lifer rheoli hydrolig. Caiff y trelar ei ostwng drwy symud y falf reoli fel bod pwysedd corff y trelar yn gwasgu’r olew allan o’r silindr.

    trailer being tipped

    System hydrolig allanol (Offer Fferm Sylfaenol)

    diagram of trailer being tipped with trailer body pivot point, pivot point, telescopic cylinders, connection to cylinder, flexible hydraulic pipe, external tapping point, pickup hook and pivot point labelled

    Sesiwn 9


    Olwynion, Teiars a Breciau

    Olwynion, teiars a breciau

    Bydd tractorau â gyriant dwy-olwyn neu gyriant pedair-olwyn. Mae gan y ddau fath olwynion ôl mwy o faint sydd yn brif olwynion gyrru, ac olwynion blaen llai o faint. Mae dewis hefyd o ddefnyddio olwynion dwbl sydd, fel arfer, yn cael eu clampio i’r olwynion ôl pan fydd angen cynyddu ôl-troed neu sadrwydd y tractor.

    tyres on parked tractor

    Olwynion ddwbl

    Mae angen gwell sadrwydd wrth weithio ar lethrau, a mwy o ôl-troed ar dir llithrig. Bydd rhai pobl hefyd yn rhoi olwynion dwbl ar y tu blaen.

    twin wheeled tractor in field

    Tractor gyriant dwy-olwyn

    Tuedda gwadn y teiars ar olwynion blaen tractorau gyriant dwy-olwyn fod â rhigolau sy’n dilyn cylchedd y teiar.

    two wheel drived tractor on yard

    Tractor gyriant pedair-olwyn

    Bydd gan dractor gyriant pedair-olwyn yr un gwadn ar y ddwy set o olwynion.

  • Mae’r teiars yn bwysig iawn am eu bod yn effeithio ar dyniant y tractor ag arwyneb y tir.
  • four wheel drive tractor in field

    Tyniant ar y llawr

    Ar dractorau gyriant dwy-olwyn dim ond yr olwynion ôl sy’n gyrru’r tractor, ac mae’r olwynion blaen ar gyfer llywio. Ar dractorau gyriant pedair olwyn mae pob olwyn yn cyfrannu at yriant y tractor. Mae’r teiar tynnu yn mynd i mewn i’r pridd, gan atal y tractor rhag llithro, ac mae ganddo wadn agored sy’n glanhau ei hunan.

    Mathau o teiar

    Mae dau brif fath o deiar:

  • Teiar croeshaen, gyda’r haenau ar 45 gradd i’r rhimyn.
  • Rheiddiol, gyda’r haenau ar 90 gradd i’r rhimyn.
  • close up of tyre tread

    Graddio teiars

    Hefyd, mae teiars yn cael eu graddio yn ôl y nifer o haenau o ffabrig neu gynfas sydd o dan wadn y teiar, e.e. pedair / chwe haen. Mae’r ail yn gryfach ac yn dal mwy o bwysau. Mae gan bob teiar uchafswm llwyth y gall ei ddal yn ddiogel. Gellir cael y wybodaeth hon o daflenni data technegol y gwneuthurwr.

    close up of tyre tread

    Beth yw ystyr y ffigurau ar ochr y teiar?

    Teiar safonol – 13.6/12-38

  • Cyfeiria 13.6 at led y teiar​
  • Cyfeiria 12 at led y camog
  • Cyfeiria 38 at ddiamedr y camog
  • close up of stack of tractor tyres

    Diffygion a phroblemau gyda teiars

    Rhaid gwirio teiars tractor cyn ei ddefnyddio ar gyfer:

  • Traul
  • Chwyddau
  • Balast (os yn gymwys)
  • Pwysedd
  • Rhwygiadau
  • Rhwygiadau

    Mae dau brif fath o freciau:

  • Breciau drwm
  • Breciau disg
  • Breciau drwm

    Wrth wasgu’r pedal troed mae dau wadn brêc yn symud allan nes cyffwrdd â’r drwm brêc sy’n eu hamgylchynu. Mae’r drwm brêc yn sownd yn y rhan o’r olwyn sy’n cylchdroi, a phan fydd y tractor yn symud mae’r drwm a’r olwyn yn symud fel un. Wrth wasgu’r brêc mae’r cam brêc ar ben y plât cefn yn cylchdroi ychydig ac yn symud y gwadnau brêc, sydd wedi’u pifodi ar eu gwaelod, allan, fel eu bod yn cyffwrdd â’r drwm brêc.

    Breciau Disg

    Mae’r disg brêc yn cael ei ddal ar y ddwy ochr gan badiau sydd wedi’u mowntio mewn un neu ddau o galiperau brêc sefydlog. Mae’r caliperau’n cynnwys pistonau sy’n cael eu gwasgu yn erbyn y disg brêc, sy’n cylchdroi, gan rym hydrolig a gynhyrchir wrth wasgu’r pedal troed.

    Disc Brake diagram with disc, caliper, friction pads, pipeline, master cylinder, pedal, piston 1, cylinder 2, and piston 2 labelled

    Breciau Disg

    Trosglwyddir y grym hydrolig sy’n cronni yn y prif silindr trwy’r llinellau brêc i’r caliperau brêc, ac mae’n gwthio’r pistonau o’r safle cychwynnol ar y padiau ac felly i’r disgiau brêc. Er mwyn sicrhau bod y pistonau yn mynd yn ôl i’w safle cychwynnol ar ôl brecio, mae llawes rwber arbennig o’u hamgylch. Mae hon yn newid ei siâp pan wthir y piston allan, ac mae’n mynd yn ôl i’w siâp gwreiddiol ar ôl rhyddhau’r brêc, gan dynnu’r piston nôl gyda hi.