English

Peirianneg
Adran 2 - Dechrau, Gyrru a Stopio’r Tractor

Mae'r adnodd hwn yn addas i gefnogi cyrsiau Amaethyddiaeth Lefel 2.

Cynnwys

Mae’r adran yma ar ddechrau, gyrru a stopio’r tractor yn cynnwys gwybodaeth ar y canlynol:

  • Sesiwn 1 - Pethau i’w gwneud cyn dechrau’r tractor
  • Sesiwn 2 – Y Panel Deialau
  • Sesiwn 3 – Peryglon cyffredin gyrru’r tractor
  • tractor in field

    Sesiwn 1
    Pethau i’w gwneud cyn dechrau’r tractor

    Pethau i’w gwneud cyn dechrau’r tractor

    Chi, eich hunan

  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cael eich hyfforddi cyn defnyddio unrhyw beiriannau.
  • Gwisgwch ddillad addas - dim dillad rhydd na gemwaith a allai fynd yn sownd mewn darnau symudol - clymwch unrhyw wallt hir; gwisgwch esgidiau addas (esgidiau diogelwch glân, gyda gwadn da), a Chyfarpar Diogelu Personol ar gyfer y clustiau neu’r dwylo, os bydd angen.
  • Byddwch yn effro, a pheidiwch â gweithio os byddwch wedi gorflino.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall sut mae rheoli’r tractor, a beth y gall y tractor ei wneud.
  • person in tractor, looking out at person showing them a checklist

    Pethau i’w gwneud cyn dechrau’r tractor

  • Tanwydd - edrychwch naill ai yn y tanc, os yw’r tractor yn hen, neu ar y medrydd.
  • Olew – gerbocs/llywio pweredig/injan /echel ôl.
  • Hylif y cydiwr a’r brêc.
  • Lefel y dŵr, a gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw falurion yn y rheiddiadur.
  • tractor engine

    Pethau i’w gwneud cyn dechrau’r tractor

  • Teiars – traul / pwysedd aer a namau.
  • Goleuadau – yn arbennig y brêc, y cyfeirwyr a’r golau ar ben y tractor.
  • Cysylltiadau’r batri a lefel yr electrolyt.
  • Tensiwn a thraul ar y ffanbelt.
  • tyre marks in soil

    Pethau i’w gwneud cyn dechrau’r tractor

  • Glendid pob ffenest.
  • Drychau – yn lân ac yn y man iawn.
  • Symudwch unrhyw offer neu rwystrau eraill o lawr y caban.
  • dirty tractor in yard

    Pethau i’w gwneud cyn dechrau’r tractor

  • Gwnewch yn siŵr bod yr holl lefelau (tanwydd, hylif, dŵr, olew ac electrolyt) yn unol â’r hyn sydd yn llawlyfr y tractor.
  • Gwnewch yn siŵr bod pob golau’n lân ac yn gweithio’n iawn.
  • Gwnewch yn siŵr bod pwysedd y teiars yn addas ar gyfer y gwaith sydd mewn golwg.
  • Tynhewch y ffanbelt, neu newidiwch ef os bydd angen.
  • tractor light with mud covering it

    Sesiwn 2


    Y Panel Deialau

    Y Panel Deialau

    Mae deialau ac offer rheoli gwahanol fathau o dractorau wedi’u rhoi mewn mannau gwahanol.

  • Bydd llawlyfr y tractor yn rhestru ac yn esbonio’r offer a’r deialau sydd ar y tractor.
  • front profile of tractor

    Deialau

    Deialau ar gyfer:

  • Tanwydd
  • Pwysedd olew
  • Tymheredd/Oerydd
  • Amedr
  • Medrydd oriau
  • tractor instrument panel

    Offer rheoli:

  • Brêc llaw
  • Liferi gêr
  • Sbardun llaw
  • Sbardun troed
  • Cydiwr
  • Breciau
  • Liferi hydrolig
  • Switshis trydan (goleuadau ac ati)
  • Offer rheoli’r P.T.O.
  • tractor instrument panel

    Dangosyddion ar y Panel Deialau

    tractor control panel symbols

    Sesiwn 3


    Peryglon cyffredin gyrru tractor

    Peryglon cyffredin gyrru tractor

    Gatiau

    Mae tri pherygl posib wrth yrru trwy gatiau:

  • Lled y bwlch
  • Tir anwastad (rhychau a dorrir gan anifeiliaid a thractorau)
  • Rhywbeth sy’n amharu ar welediad (mynd allan i ffordd)
  • tractor reaching a gate

    Nesáu at gât

    Wrth nesáu at gât, sicrhewch fod digon o le i’r tractor. Cofiwch am yr atodion a allai gymryd mwy o le.

    tractor going down narrow section in between fields

    Nesáu at gât

    Gall y tir ger gatiau fod yn anwastad ac yn rhychiog, ac yn wlyb mewn tywydd gwlyb.

  • Gyrrwch ar gyflymder priodol, a chofiwch am y newidiadau yn natur a lefel y tir.
  • Gall y rhain effeithio ar sefydlogrwydd y tractor.
  • tractor halfway through gate

    Gatau sy’n arwain at heolydd

    Oherwydd natur tractor, pan fyddwch yn mynd allan i ffordd trwy gât, ni fydd gennych olygfa glir o gerbydau sy’n dod tuag atoch. Symudwch allan yn araf nes eich bod yn sicr na fydd unrhyw gerbydau yn effeithio arnoch. Cenwch y corn er mwyn i bobl eraill wybod eich bod chi yno. Os byddwch yn defnyddio’r gât yn ystod y dydd dylech osod bolardiau ac arwyddion ar y ffordd er mwyn rhybuddio gyrwyr eraill.​

    field with gate open on to road

    Corneli Cudd

    Dylech symud yn araf tuag at unrhyw gornel gudd, gan ganu’ch corn a symud yn araf nes eich bod wedi mynd o gwmpas y tro.

  • Gallai fod pobl, anifeiliaid neu gerbydau eraill o gwmpas y tro.
  • blind corner on a road

    Mynedfeydd cul i adeiladau

    Gofalwch fod eich tractor yn gallu mynd trwy’r fynedfa’n ddiogel.

  • Mesurwch hi.
  • Os bydd y tractor yn ffitio rhaid symud yn araf gan gofio am y diffyg lle.
  • Os yw’r fynedfa’n gul iawn, peidiwch â throi wrth ddod allan nes eich bod wedi gorffen mynd trwy’r fynedfa.
  • two tractors on a narrow path

    Llethrau / Arwynebau amrywiol

    Pan fyddwch chi am yrru ar lethrau, cofiwch am y canlynol:

  • Po fwyaf serth y llethr y mwyaf fydd y perygl. Gall tractor fynd i fyny llethr 18 gradd yn ddiogel, ond heb fedru dod i lawr yr un llethr. Gall llethrau llai na 10 gradd achosi damweiniau.
  • very steep hill slope

    Arwyneb y lloriau

    Mae natur wahanol glaswellt, pridd, cerrig rhydd, traciau, ffyrdd a llaid i gyd yn effeithio ar ba mor dda y gall tractor ymdopi â llethr. Os bydd natur y llystyfiant yn newid gall haneru gafael y tractor.

    rough ground

    Amodau’r tir

    Gallai llethr sy’n ddiogel pan fydd yn sych fod yn beryglus pan fydd yn wlyb, yn ddirlawn, wedi’i rewi, yn dadlaith, ac ati.

    flooded land

    Amodau’r tywydd

    Mae newidiadau yn y tywydd hefyd yn effeithio ar ddiogelwch y llethr, yn enwedig os yw hi’n bwrw glaw, yn niwlog neu’n wyntog.

    field with bridge over it

    Tir anwastad

    Cadwch yn glir o rychau, tyllau, pantiau, brigiadau o gerrig a llwybrau anifeiliaid.

    uneven field

    Rhwystrau Mawr

    Cymerwch ofal ger gatiau, ffosydd, cloddiau a draeniau.

    tractor in field

    Rhwystrau Cudd

    Cadwch olwg am bethau fel tyllau cwningod, twmpathau gwahaddod, creigiau a bonion coed a allai fod wedi’u cuddio gan lystyfiant.

    field with heavy vegetation

    Protocolau ar ôl gyrru

    Ar ôl ichi orffen â’r tractor a’r atodion, gadewch nhw mewn cyflwr addas i’w defnyddio eto.

    parked tractor with clean attachments

    Protocolau ar ôl gyrru tractor

  • Parcio’n ddiogel (SAFE STOP) - cofiwch dynnu’r brêc llaw, a diffoddwch yr holl switshis ac offer, stopiwch yr injan a thynnwch yr allwedd.
  • Parcio yn y man a ddynodir.
  • Glanhau’r tractor – golchwch y tu allan, yn enwedig y sgrin wynt a’r ffenestri ochr / cefn a’r drychau.
  • parked tractor

    Protocolau ar ôl gyrru tractor

  • Sicrhau fod pob golau (priflampau, lampau ochr a’r cyfeirwyr, ac unrhyw oleuadau eraill) yn lân
  • Clirio unrhyw faw ac offer o lawr y cab
  • Chwilio am unrhyw nam ar y teiars, a chadw llygad ar eu pwysedd ​
  • Rhoi gwybod i’r person priodol os bydd unrhyw ddiffygion​
  • Rhoi tanwydd yn y tanc – gall lleithder gasglu yn y tanc wrth iddo oeri​
  • Gwirio lefelau’r olew​
  • Gwirio lefel y dŵr​
  • parked tractor

    Peiriannau llwytho: Protocolau ar ôl gyrru tractor

  • Ei lanhau​
  • Ei adael ar y stand cywir ar dir gwastad​
  • Gwirio’r pinnau cysylltu rhag ofn eu bod wedi’u difrodi ​
  • Chwilio am chwyddau a difrod arall ar y pibellau hydrolig a’r cysylltiadau ​
  • Gwirio atodion y llwythwr (bwcedi, crafangau ac ati) ​
  • Chwilio am seliau sy’n gollwng o gwmpas y pistonau hydrolig ​
  • Rhoi gwybod i’r person priodol os bydd unrhyw ddiffygion​
  • Iro’r darnau​
  • parked tractor with loader attached at ground level

    Atodion a dynnir

  • Glanhau’r teclyn.
  • Parcio ar dir gwastad os yn bosib.
  • Tynnwch y brêc llaw, os oes un.
  • Ei roi ar y jacs, os oes rhai.
  • Ei roi ar yr esgid gywir, os oes un.
  • unattached trailed attachment

    Atodion a dynnir

  • Datgysylltu pibellau hydrolig gan lacio unrhyw bwysedd hydrolig.
  • Gwirio’r pibellau hydrolig a’r cysylltiadau am chwyddau, gollyngiadau ac unrhyw ddifrod arall.
  • Chwilio am seliau sy’n gollwng o gwmpas y pistonau hydrolig.
  • Chwilio am unrhyw arwydd o wisgo neu nam ar y teiars, a chadw llygad ar eu pwysedd.
  • tractor with trailed attachment in field

    Atodion a dynnir

  • Bwrw golwg dros y teclyn i chwilio am unrhyw ddifrod (yn cynnwys siafftau’r p.t.o.).
  • Iro’r darnau symudol.
  • Rhoi gwybod i’r person priodol os bydd unrhyw ddiffygion.
  • attachment being fitted

    Atodion sydd wedi’u gosod ar y tractor

  • Glanhau’r teclyn.
  • Ei roi ar y stand cywir.
  • Chwilio am ddifrod ar y pibellau hydrolig.
  • Chwilio am ddifrod ar y pistonau hydrolig.
  • Chwilio am ddifrod (yn cynnwys y siafft p.t.o.).
  • Iro’r darnau symudol.
  • Rhoi gwybod i’r person priodol os bydd unrhyw ddiffygion.
  • bright red mounted attachment