Mae'r adnodd hwn yn addas i gefnogi cyrsiau Amaethyddiaeth Lefel 2.
Mae’r adran ar ddefnyddio tractor gyda gwahanol atodion cyswllt sydd wedi’u gosod neu sy’n cael eu tynnu yn cynnwys y gwybodaeth canlynol:
Mae tair prif ffordd o wneud hyn:
Ar lawer o ffermydd bydd y llwythwr yn aros ar y tractor ar hyd y flwyddyn. Ar ffermydd eraill, bydd yn cael ei osod dros fisoedd y gaeaf yn unig. Yn aml, bydd gwerthwr y llwythwr yn ei osod yn y lle cyntaf.
Cyn defnyddio’r tractor a’r llwythwr, mae'n bwysig sicrhau bod pob pin yn ddiogel ac yn addas ar gyfer y llwythwr, a bod y pibellau olew hydrolig yn ddiogel, heb unrhyw chwyddau na dim byd yn gollwng ohonyn nhw. Gwnewch yn siŵr bod y bwced / y grafanc neu’r fforch dom wedi’u cysylltu’n ddiogel.
Talwch sylw i’r pwyntiau canlynol wrth gysylltu’ch tractor:
Gallwch newid gosodiad y tynfar fel a ganlyn:
Mae cynllun rhai mathau o offer codi yn eich gorfodi i bwyso allan o gefn y cab er mwyn gweld lle mae’r bachyn. Os dyma’r sefyllfa, mae’n llawer gwell i chi gael person arall i’ch helpu i leoli’r tractor – os byddwch yn gorymestyn allan o’r cefn byddwch yn colli rheolaeth ar y cydiwr a’r pedalau brêc.
Gyda mathau eraill o fachyn mae’r bachyn codi yn symud allan wrth ei ostwng, gan wella’ch gwelediad yn sylweddol.
Wrth i chi gysylltu teclyn, rhaid i chi gofio naill ai i symud ymlaen yn araf oherwydd bod y teclyn yn mynd i symud ymlaen, neu fynd yn ôl ychydig heibio llygad y teclyn fel bod y bachyn yn symud i’w briod le wrth i chi’i godi.
Pan fyddwch yn cysylltu teclynnau â’r cysylltedd triphwynt gwnewch yn siŵr na fydd y tynfar yn amharu ar weithrediad y teclyn. Hwyrach y bydd angen cael gwared ar y tynfar.
Pa arwyddion rhybuddio ddylech chi eu defnyddio?
Os byddwch yn gweithio gydag atodion ar y tractor bydd yr atodion yn newid y ffordd y bydd y tractor yn ymateb.
Mae offer fferm a osodir ar y tractor, neu a dynnir, fel codwyr byrnau, yn effeithio ar y tractor, a’r hyn y bydd angen i chi, fel gyrrwr tractor, fod yn ymwybodol ohono. Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y canlynol:
Gall tractor droi drosodd neu am yn ôl os nad yw’n ddigon sad. Mae’n hawdd dymchwel tractor heb atodion drwy ei yrru’n anghywir, ond mae atodion yn cynyddu’r perygl o hyn.
Mae defnyddio codwr byrnau, neu unrhyw atodion a dynnir neu a osodir ar y tractor, yn effeithio ar y cylch troi.
Rhaid cofio am y cynnydd hwn yn yr hyd cyffredinol wrth droi o gwmpas adeiladau, neu ar y clos / buarth, neu wrth fynd i mewn ac allan o unrhyw fynedfa i gae neu fferm. Bydd angen cymryd llwybr hirach nag arfer er mwyn cymryd y tro neu fynd trwy’r fynedfa.
Rhaid i yrrwr sy’n teithio ar y ffordd gofio am faint cyffredinol, ac yn arbennig lled y cyfuniad. Mae gwahanol ffyrdd o leihau lled sawl math o declyn a dynnir neu a osodir er mwyn eu symud o le i le, a chyn eu symud, mae’n bwysig bod y gyrrwr yn addasu’r teclynnau yn gywir ar gyfer ei symud.
Gall yr atodyn effeithio ar yr hyn y mae modd ei weld o sedd y gyrrwr. Ni ddylai teithio gyda chodwr byrnau gwag effeithio ar yr hyn allwch chi ei weld, ond bydd cario bwrn mawr arno yn sicr o wneud. Cofiwch am y mannau cudd a achosir gan wahanol lwythi.
Gall llawer o declynnau a osodir ar dractor gyfyngu ar yr hyn allwch chi ei weld trwy’r ffenest ôl, e.e. trelar grawn neu silwair, a gall y gyrrwr fethu â gweld yr hyn sydd union y tu ôl i’r cyfuniad. Bydd gosod drychau ochr y tractor yn gywir yn gwella’r gwelededd heibio ochrau’r teclyn yn sylweddol.
Gall cyflwr y cae amrywio lawer, a bydd hyn yn effeithio ar y defnydd cywir o’r cyfuniad. Gall y ffordd y bydd y teclyn wedi’i osod effeithio ar graidd disgyrchiant a thyniant (gafael) y tractor.
Bydd codwr byrnau yn symud y pwysau o olwynion ôl y tractor, gan leihau’u tyniant. Bydd hyn hefyd yn effeithio ar allu’r tractor i frecio. Er mwyn gwrthweithio hyn, gallwch osod balast neu bwysau ar yr olwynion ôl, neu roi pwysau ôl ar y cysylltedd triphwynt.
Bydd defnyddio teclyn a dynnir neu a osodir yn rhoi mwy o bwysau ar gefn y tractor, ond bydd hyn yn codi blaen y tractor gan leihau’r tyniant a’r gallu i’w lywio. Mae modd gwrthweithio hyn drwy ddefnyddio pwysau neu falast ar yr olwynion blaen, neu bwysau ar flaen y tractor.
Hyd yn oed ar ôl defnyddio’r holl fesurau hyn, bydd cyflwr y tir, a all amrywio’n fawr o gae i gae, e.e. llecynnau gwlyb, ffosydd, llethrau a rhwystrau, yn cael effaith fawr ar ddefnydd diogel y cyfuniadau.
Dylech hefyd gadw golwg am dyllau, rhigolau a phantiau a allai effeithio ar sadrwydd eich tractor.
Mae gyrru ar lethrau yn berygl sy’n achosi llawer o ddamweiniau tractor difrifol (y tractor yn troi drosodd).
Y pedwar prif berygl yw:
Mae colli rheolaeth yn digwydd pan fydd yr olwynion yn colli tyniant, gyda’r canlyniad bod y breciau a’r llyw yn aneffeithiol.
Os bydd trelar neu declyn a dynnir yn gwthio i mewn i’r tractor, gall y cwbl blygu yn ei hanner gan droi’r tractor o gwmpas. Gall brecio’n galed wrth droi gael yr un effaith. Gall plygu fel hyn ddigwydd ar lethrau gyda chyn lleied â 5 neu 6 gradd o raddiant. Mae’r perygl hwn yn cynyddu os bydd cyflwr y tir yn wael, neu’r llwyth yn drwm, neu os bydd gafael yr olwynion yn wael.
Troi drosodd yw achos unigol pwysicaf o niwed neu farwolaeth ar lethrau. Gallwch droi drosodd mewn tair ffordd:
Po fwyaf serth y llethr, y mwyaf fydd y perygl. Gall tractor ddringo llethr 18 gradd yn ddiogel, ond gall fethu â dod i lawr yr un llethr. Gall llethrau sy’n llai na 10 gradd achosi damweiniau.
Mae glaswellt, grug, pridd, cerrig rhydd, llwybr, ffordd, a llaid i gyd yn effeithio ar ba mor dda y gall tractor ymdopi â llethr. Gall newid yn y llystyfiant haneru’r gafael.
Gall llethr sy’n ddiogel mewn tywydd sych fod yn beryglus os yw’n wlyb, yn ddirlawn, wedi’i rewi, yn dadlaith, ac ati.
Gall tywydd gwlyb, niwlog neu wyntog effeithio ar ddiogelwch y llethr.
Cadwch i ffwrdd o rigolau, tyllau, pantiau, brigiadau a llwybrau anifeiliaid.
Byddwch yn ofalus ger gatiau, ffosydd, cloddiau, a draeniau.
Chwiliwch am dyllau cwningod, twmpathau gwahaddod, creigiau a bonion coed a allai fod yn guddiedig yn y llystyfiant.
Os byddwch yn colli rheolaeth: