English

Peirianneg
Adran 4 - Llwytho, Cludo a Dadlwytho Deunyddiau’n Ddiogel

Mae'r adnodd hwn yn addas i gefnogi cyrsiau Amaethyddiaeth Lefel 2.

Cynnwys

Mae’r adran yma ar lwytho, cludo a dadlwytho deunyddiau’n ddiogel yn cynnwys gwybodaeth ar y canlynol:

  • Sesiwn 1 - Defnyddio offer codi mecanyddol er mwyn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol priodol
  • Sesiwn 2 – Cludo deunyddiau’n ddiogel
  • Sesiwn 3 – Pentyrru a storio
  • stacked haybales

    Sesiwn 1
    Defnyddio offer codi mecanyddol er mwyn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol priodol

    Defnyddio offer codi mecanyddol er mwyn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol priodol ​ e.e. uchafswm pwysau

    Defnyddio Cynorthwyon Mecanyddol

    Pan fyddwch yn defnyddio cynorthwyon mecanyddol, mae gofyn defnyddio rhywfaint o ymdrech gorfforol, ond llawer llai nag y byddai ei hangen heb y cynorthwyon. Enghreifftiau o offer y gallech ei ddefnyddio fyddai troli sachau, whilber / berfa, nenbont (gantry) symudol mewn gweithdy, a theclyn codi hydrolig.

    graphic of person using mechanical aid to lift something

    Cynorthwyon Mecanyddol

    Cynorthwydd mecanyddol syml er mwyn tipio olew allan o’r drwm.

    mechanical aid with drum

    Ystyriaeth Pwysau

    Gyda chynorthwyon syml fel trolïau sachau a whilberi, dylech sicrhau nad ydych yn cario mwy nag y gallwch ei drafod, ac yn cadw rheolaeth ar y cynhorthwy.

  • Pan fyddwch yn defnyddio teclyn codi, bydd angen cyfeirio at lawlyfr y gwneuthurwr er mwyn gweld beth yw’r pwysau mwyaf, a’r ffordd orau a mwyaf diogel o ddefnyddio’r teclynnau codi.
  • Os ceisiwch chi godi mwy nag y gall y teclyn ei godi, byddwch yn peryglu’ch hunan ac, o bosib, yn achosi difrod i’r teclyn codi a’r llwyth.
  • Os bydd angen i chi ddefnyddio gwregysau, rhaffau neu efynnau (shackles), bydd rhaid iddyn nhw fod yn addas ar gyfer y math o lwyth sydd dan sylw a’i bwysau.
  • Sesiwn 2


    Cludo Deunyddiau’n Ddiogel

    Cludo Deunyddiau’n Ddiogel

    Pan fyddwch wrth eich gwaith, mae’n hanfodol bod unrhyw ddeunyddiau y byddwch yn eu cludo wedi’u diogelu rhag difrod ac yn ddiogel. Er mwyn sicrhau hyn dylech ddefnyddio’r dulliau canlynol:

  • Rhaffau
  • Strapiau
  • Rhwydi
  • Cadw deunyddiau ar wahân
  • tractor loading haybales

    Rhaffau

    Mae rhaffau’n ffordd effeithiol iawn o ddiogelu llwythi. Bydd angen i chi’u clymu’n dynn, a defnyddio’r llygaid clymu ar y trelar. Os nad oes unrhyw lygaid clymu ar y trelar, clymwch y rhaffau wrth ran gadarn o’r trelar. Gofalwch fod digon o raff i glymu’r llwyth. Gofalwch fod y llwyth yn sownd ac nad oes modd iddo symud wrth ei gludo. Rhaid clymu’r rhaffau mewn mwy nag un cyfeiriad h.y. o’r tu blaen a’r tu cefn.

    loads secured with ropes

    Byrnau Traddodiadol ar Drelars Llawr Gwast

    Pan fyddwch yn llwytho byrnau traddodiadol ar drelars llawr gwastad, cofiwch osod rheseli ar flaen a chefn y trelar. Pentyrrwch y byrnau er mwyn cloi pob haen yn ei lle.

    bales on flatbed trailer

    Cludo Byrnau ar yr Heolydd

    Os bydd y byrnau’n cyrraedd yn uwch na’r rheseli, bydd angen rhaffau i’w cadw yn eu lle. Os bydd angen eu cludo am gryn bellter bydd angen eu gwneud yn ddiogel iawn, yn enwedig os byddwch yn mynd ar hyd ffordd gyhoeddus. Os byddwch yn eu cludo o gae sy’n agos i’r fferm, yna gallai cyd-gloi’r byrnau fod yn ddigonol.

    bales on flatbed trailer

    Tir Anwastad

    Os ydych yn teithio o gae sy’n gyfagos i’r ffermdy, yna, mae angen cyd-gloi’r haenau yn effeithiol.

  • Os mae’r daith yn golygu teithio dros dir anwastad, yna mae angen i’r llwyth amsugno’r ansefydlogrwydd sy’n dod o’r tir.
  • bales on flatbed trailer

    Byrnau Crwn

    Os byddwch yn llwytho byrnau crwn, bydd eu cyd-gloi ar y trelar yn help i’w diogelu. Os byddwch yn teithio dipyn o bellter ar y ffordd, wedyn bydd angen diogelu’r llwyth gan ddefnyddio rhaffau, yn arbennig ar y tu blaen ac ar y cefn. Oherwydd pwysau’r byrnau hyn, mae’n annhebygol y byddant yn mynd yn uwch na’r rheseli.

    interlocked bales on flatbed trailer secured with ropes

    Strapio’r Llwyth

    Mae defnyddio strapiau i ddiogelu’r llwyth yn ddull mwy diogel, am nad oes angen clymau diogel. Mae tyniant cyson y strapiau yn diogelu’r llwyth. Fel gyda rhaffau, dylech osod strapiau ar y tu blaen ac ar y cefn, oherwydd dyma’r mannau sy’n fwyaf tebygol o ddod yn rhydd.

    interlocked bales on flatbed trailer secured with ropes

    Rhaffau a Strapiau am Lwythi Eraill

    Rhaffau a strapiau yw’r ddau ddull mwyaf cyffredin a ddefnyddir ar ffermydd er mwyn diogelu gwahanol fathau o lwythi, e.e. cludo byrnau o wair, paledi o borthiant neu o flawd llif, neu er mwyn cludo peiriannau ar drelars.

    close up of strap

    Gofalu am Raffau a Strapiau

    Ar ôl ei ddefnyddio, dylech wneud y pethau canlynol gyda phob rhaff / strap neu gyplydd:

  • Eu glanhau
  • Eu rholio i fyny
  • Eu gwirio am draul a difrod
  • Eu storio oddi ar y llawr mewn man sych
  • Glanhau cyplyddion a’u gwirio nhw am ddifrod a thraul
  • Eu storio mewn man pwrpasol
  • Rhwydi

    Gallai fod angen gosod rhwyd neu gynfas pan fyddwch yn cludo deunyddiau a allai gwympo neu gael eu chwythu o’r trelar, e.e. wrth gludo plastig lapio silwair mewn trelar llafur neu drelar silwair ag ochrau uchel, byddai gosod rhwyd neu gynfas drosto yn sicrhau bod y llwyth yn ddiogel.

    Bagiau ar Baledi

    Mae bagiau o gynhyrchion ar baledi yn cael eu lapio mewn plastig er mwyn eu diogelu rhag tywydd gwael ac er mwyn eu rhwystro rhag symud ar y paledi. Defnyddir glud rhwng pob haen o fagiau er mwyn eu cadw gyda’i gilydd, ond bydd angen clymu’r paledi ar y trelar o hyd.

    stacked palleted bags

    Tarpolin

    Mae modd defnyddio tarpolin dros lwyth, yn lle rhwyd, er mwyn ei ddiogelu rhag tywydd gwael neu lwch.

    Cemegion​

    Dylid cadw cemegau, sy’n cael eu cludo o’r cyflenwr i’r fferm, ar wahân. Os byddwch yn eu cludo ar y ffordd, ni ddylent fod yn yr un lle â’r gyrrwr, ac os byddwch yn defnyddio lori fechan (pick-up) dylai’r cemegau fod yn y cefn. Os byddwch yn defnyddio fan, bydd angen cael rhwystr neu gynhwysydd er mwyn cadw’r llwyth a’r gyrrwr ar wahân.

    white chemical container on top of 2 pallets

    Llwytho a Dadlwytho

  • Ni ddylai unrhyw draffig arall, cerddwyr na neb arall nad ydynt ynghlwm wrth y gwaith llwytho/dadlwytho fod yn y man llwytho/dadlwytho.
  • Bod y man llwytho/dadlwytho heb unrhyw wifrau trydan uwchben y gellir eu cyffwrdd yn ddamweiniol gan achosi damweiniau difrifol.
  • Bod y man llwytho/dadlwytho yn lefel. Er mwyn iddynt fod yn sad, rhaid parcio trelars ar dir cadarn a gwastad.
  • Wrth lwytho/dadlwytho dylid dosbarthu llwythi mor gyfartal â phosib. Gall llwythi anghyfartal wneud y cerbyd neu’r trelar yn ansad.
  • haybales being stacked

    Llwytho a Dadlwytho

  • Gwnewch yn siŵr bod breciau’r cerbyd ymlaen, a bod pob sadiwr yn cael ei ddefnyddio.
  • Peidiwch â gorlwytho cerbydau na threlars.
  • Dylech fwrw golwg dros y llwyth cyn ei ddadlwytho rhag ofn ei fod wedi symud yn ystod y daith, a bod perygl iddo symud neu gwympo pan gaiff y rhaffau neu’r strapiau eu datod.
  • haybales being stacked

    Llwytho’n Gywir a Diogel

    Er mwyn cadw’r llwyth yn sad, ac er mwyn ei lwytho a’i symud yn ddiogel, mae’n bwysig cofio am y canlynol:

  • Dosbarthiad y pwysau.
  • Gosod y llwyth yn gywir.
  • loads stacked in a good position

    Craidd disgyrchiant

    Mae’n bwysig cofio dosbarthu pwysau’r llwyth yn gywir, a chofio lle mae’i graidd disgyrchiant (centre of gravity). Mae hyn yr un mor bwysig wrth godi â llaw ag yw i godi mecanyddol.

    person lifting haybale

    Codi Llwyth

    Os byddwch yn codi llwyth â llaw, heb fod yn sicr lle mae’i graidd disgyrchiant, gallech gael niwed. Yr un yw’r broblem os byddwch yn defnyddio llwythwr i godi’r llwyth.

    tractor lifting haybale

    Codi Llwyth gyda Llwythwr

    Os byddwch yn codi’r llwyth yn anghywir, gan ddiystyried ei graidd disgyrchiant, bydd mwy o bwysau ar naill ochr y tractor, bydd y tractor a’r llwythwr yn ansad, gan roi gormod o bwysau ar yr echel ac achosi i freichiau’r llwythwr blygu. Mae llawer o ddeunyddiau’n cael eu symud ar baledi (porthiant, blawd llif, glanedyddion hylif) neu mewn bagiau mawr â strapiau arnyn nhw (porthiant, gwrteithiau).

    person lifting haybale using loader

    Gosod Llwyth ar y Trelar

    Pan fyddwch yn gosod y llwyth ar y trelar, mae’n hollbwysig eich bod yn gwneud hyn yn gywir er mwyn sicrhau bod y llwyth yn sad, a bod ei bwysau wedi’i ddosbarthu’n gyfartal.

  • Os byddwch yn rhoi un bag o wrtaith ar drelar llawr gwastad, y lle gorau fydd dros yr echel ac yng nghanol y llawr. Bydd hyn hefyd yn hwyluso brecio’r llwyth.
  • Os byddwch yn cludo deunyddiau sydd â gwahanol bwysau ar drelar, rhowch y peth trymaf dros yr echel. Peidiwch â’i roi ym mlaen y trelar gan y bydd hyn y rhoi pwysau ar y pwynt bachu.
  • loads being dropped into trailer

    Sesiwn 3


    Pentyrru a Storio

    Pentyrru a Storio

    Y deunyddiau mwyaf cyffredin sy’n cael eu cadw ar ffermydd yw:

  • Porthiant a gwellt, mewn byrnau traddodiadol ac mewn byrnau mawr, i’w roi o dan anifeiliaid.
  • Gwrteithiau - mewn bagiau 500kg neu 600kg neu mewn bagiau bach ar baledi.
  • Blawd llif – mewn bagiau bach ar baledi.
  • stacks of haybales

    Pentyrru Byrnau Traddodiadol yn Ddiogel

    Pan fyddwch yn pentyrru byrnau traddodiadol yn yr ysgubor, mae’n hanfodol eu cyd-gloi er mwyn sicrhau bod y pentwr yn ddiogel. Rhaid i’r llawr fod yn wastad, yn sych, ac yn lân. Dylid gosod yr haen gyntaf ar ei hochr, gyda’r byrnau’n pwyntio i mewn, ac er mwyn cadw’r ochrau’n gadarn dylech ddechrau ar y tu allan a gweithio i mewn.

    two people sitting on haybale, overlooking field full of haybales

    Gosod Byrnau Bach

    Dylai byrnau’r ail haen gael eu gosod ar eu gwaelod ac ar draws yr haen isaf er mwyn cyd-gloi’r haenau. Gwnewch yn siŵr na fydd unrhyw haen yn ymwthio allan heibio ymyl yr haen sydd oddi tani. Pan fyddwch yn symud byrnau â llaw, peidiwch â gorymestyn i gyrraedd bwrn, a pheidiwch â thaflu bwrn i lawr heb wybod lle mae pawb.

    graphic of bales being stacked correctly

    Codwyr Byrnau

    Os byddwch yn defnyddio codwr, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei gynnal a’i gadw, ac er mwyn osgoi damweiniau, chofiwch ei ddefnyddio mewn man diogel.

  • Os byddwch wedi cyd-gloi’r byrnau’n gywir, bydd y pentwr yn ddiogel.
  • bale elevator transporting hay

    Pentyrru Byrnau Mawr yn Ddiogel

    Codwch y pentyrrau ar dir cadarn a gwastad lle nad oes unrhwy berygl o dân, nac unrhyw dai na gwifrau trydan uwchben, nac unrhyw bosibilrwydd y gall gwyntoedd cryf chwythu byrnau i lawr.

  • Rhwymwch y byrnau wrth i chi’u pentyrru er mwyn eu rhwystro rhag symud a chwympo.
  • Codwch ffens o gwmpas y pentwr os bydd gwartheg yn gallu mynd yn agos ato neu os bydd llwybr cyhoeddus neu ffin gerllaw.
  • stack of big bales

    Pentyrru Byrnau Mawr yn Ddiogel

  • Rhowch gynfasau dros bentyrrau er mwyn cadw dŵr glaw allan o’r haenau uchaf.
  • Peidiwch â chodi’r pentwr yn uwch na 1.5 gwaith ochr fyrraf gwaelod y pentwr.
  • Peidiwch â phentyrru mwy na phedwar bwrn ar ben ei gilydd.
  • Peidiwch byth â phentyrru byrnau crwn yn fertigol.
  • stack of big bales with sheet covering the top

    Beth yw Effaith Pentyrru ar Fater Sych?

    Rhaid gwybod canran y mater sych sydd yn y byrnau cyn eu pentyrru. Dilynwch y canllawiau canlynol:

  • Llai na 25% o fater sych – un haen o fyrnau
  • Rhwng 25% a 35% o fater sych – dwy haen o fyrnau
  • Rhwng 35% a 45% o fater sych – tair haen o fyrnau​
  • stack of big bales

    Gwrteithiau

    Mae’r rhan fwyaf o ffermydd yn derbyn gwrteithiau mewn bagiau mawr 500kg neu 600kg. Os bydd angen storio’r rhain ar y fferm ni ddylid rhoi mwy na dau ohonynt ar ben ei gilydd, a dylech orgyffwrdd y bagiau er mwyn diogelu’r pentwr.

  • Os bydd y pentwr dan do yna bydd yn cael ei ddiogelu rhag y tywydd. Mae lleihau’r perygl o dân yn bwysig iawn, yn enwedig o gofio bod gwrteithiau yn cynnwys llawer iawn o nitrogen sy’n gallu ffrwydro.
  • fertiliser being loaded to tractor attachment

    Gwrteithiau

    Dylai’r adeilad lle mae’r gwrteithiau’n cael ei gadw fod yn bell o dai a deunyddiau hylosg.

  • Er mwyn ei ddiogelu rhag tywydd gwael, bydd rhaid i chi roi tarpolin neu orchudd gwrth-ddŵr dros unrhyw bentwr gwrtaith sydd yn yr awyr agored.
  • stacks of fertiliser

    Blawd Llif

    Fel arfer bydd blawd llif ar baledi wedi’i lapio mewn gorchudd gwrth-ddŵr. Bydd angen ei ddiogelu rhag yr elfennau oherwydd unwaith y byddwch wedi dechrau defnyddio’r paled bydd y gorchudd lapio’n anghyflawn. Dylid cadw’r paled dan do, ac yn agos i’r man lle caiff ei ddefnyddio.

    palleted sawdust stack

    Cludo Nwyddau

    Er mwyn cludo nwyddau o le i le ar y fferm gallech ddefnyddio cyfuniad o dractor a llwythwr / teclyn a osodir (fel bocs cludo), llwythwr neu drelar (llawr gwastad / trelar llafur / trelar tipio neu drelar silwair).

    tractor carrying haybales

    Cludo Nwyddau: Rhestr

  • Eich bod chi wedi cael eich hyfforddi i ddefnyddio’r holl offer
  • Bod yr offer yn gallu trafod y llwyth
  • Bod pwysedd aer pob teiar yn gywir
  • Nad oes unrhyw ddifrod na thraul ar y teiars
  • Bod y system frecio’n gallu ymdopi â’r cynnydd yn y pwysau
  • Bod y llwythi wedi’u diogelu’n iawn cyn eu cludo
  • Bod pob atodyn yn addas ac wedi’i osod yn gywir
  • Bod yr atodion wedi’u gosod yn y lle cywir
  • Eich bod chi’n gwybod yn union pa lwybr y byddwch yn ei ddilyn, ac am unrhyw beryglon (llethrau, gatiau, tir anwastad)
  • Bod y man gwaith yn glir ac yn ddiogel (byddwch ar eich gwyliadwriaeth am bobl, plant ac anifeiliaid)
  • Eich bod yn symud ar gyflymder diogel sy’n addas ar gyfer yr arwyneb a’r llwyth
  • Monitro Llwythi

    Pan fyddwch yn cludo deunyddiau dylech gyfyngu ar unrhyw ddifrod drwy wneud y pethau canlynol:

  • Defnyddio offer addas i gludo’r deunyddiau
  • Diogelu’r llwyth yn gywir (Fydd strapiau ddim yn torri i mewn i’r deunyddiau gymaint ag y bydd rhaffau)
  • Rhowch y llwyth yn y lle cywir er mwyn iddo fod yn sad
  • Rhowch gynfas dros y llwyth os bydd angen
  • Symudwch ar gyflymder addas er mwyn cadw’r llwyth mor sad â phosib
  • Pentyrrwch y llwyth yn gywir cyn dechrau ei symud
  • tractor loading haybales

    Gwirio Deunyddiau yn Ystod Cludiant

    Pan fyddwch yn cludo deunyddiau mae’n werth gwirio’r llwyth yn ystod y daith. Gallwch wneud hyn wrth deithio drwy fonitro’r llwyth er mwyn gweld a yw wedi symud ar y trelar, neu drwy edrych yn y drychau er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ran o’r llwyth wedi’i golli. Mae’n werth troi i mewn i encilfa er mwyn cael golwg go iawn ar y llwyth. Gwiriwch y rhaffau / strapiau, y teiars a’r atodion (pinnau bachu / gwarbinnau / peipiau hydrolig / cysylltiadau brêc, a’r goleuadau, os oes rhai.)

    haybales on trailer falling over