English

Peirianneg
Adran 5 - Gwneud Gwaith Cynnal a Chadw Rheolaidd ac Anrheolaidd

Mae'r adnodd hwn yn addas i gefnogi cyrsiau Amaethyddiaeth Lefel 2.

Cynnwys

Mae’r adran ar wneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd ac anrheolaidd sydd yn cynnwys gwybodaeth ar y canlynol:

  • Sesiwn 1 – Paratoi’r tractor a’r man gwaith ar gyfer gwaith cynnal a chadw
  • Sesiwn 2 – Amserlen Gwasanaeth Nodweddiadol
  • Sesiwn 3 – Storio peiriannau a theclynnau ar ôl eu defnyddio
  • person looking closely at tractor

    Sesiwn 1
    Paratoi’r tractor a’r man gwaith ar gyfer gwaith cynnal a chadw

    Paratoi’r tractor a’r man gwaith ar gyfer gwaith cynnal a chadw​

    Mae tractorau’n dechrau dirywio ar unwaith ar ôl iddyn nhw ddod o’r ffatri. Er mwyn arafu’r broses hon rhaid i chi wneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar systemau allweddol y tractor.

    tractor parked on field

    Cyfnodau gwasanaeth tractor

    Bydd y rhan fwyaf o wneuthurwyr tractorau yn nodi pa mor aml y bydd angen gwneud y gwaith hwn, a beth fydd angen sylw. Mae tractorau’n wahanol i geir; bydd angen gwneud gwaith ar geir bob 12 mis neu bob 10,000 milltir, ond bydd angen sylw ar dractor ar ôl hyn a hyn o oriau gwaith.

    tractor working in field

    Beth yw goblygiadau gwaith cynnal a chadw gwael?

    Y system iro - bydd y darnau’n gorboethi; byddant yn treulio’n gyflymach, a byddant yn fwy tebygol o dorri i lawr.

    Beth yw goblygiadau gwaith cynnal a chadw gwael?

    Y system danwydd - os na chaiff ei chynnal neu’i newid, bydd deunyddiau a allai effeithio ar lif y tanwydd ac ar berfformiad y tractor yn casglu yn y ffilteri. Gall chwistrellwyr tanwydd gael eu heffeithio gan faw yn cronni ynddynt a chan draul. Bydd hyn yn effeithio ar berfformiad yr injan.

    Beth yw goblygiadau gwaith cynnal a chadw gwael?

    Ffilteri aer - os na chaiff y rhain eu gwirio, gallant dagu’r injan gan achosi i’r injan golli pŵer.

    blocked air filters

    Beth yw goblygiadau gwaith cynnal a chadw gwael?

    Systemau oeri – bydd yr injan yn gorboethi a bydd mwy o draul arni. Gallai anghofio edrych ar lefel y gwrthrewydd arwain at ddifrod difrifol gan rew. Gallai cen (scale) yn y system oeri achosi problemau gorboethi.

    tractor in misty field

    Beth yw goblygiadau gwaith cynnal a chadw gwael?

    Y batri – os na fydd yn cynnal ei wefr (charge) byddwch yn methu â dechrau’r tractor.

    tractor battery stock photo

    Beth yw goblygiadau gwaith cynnal a chadw gwael?

    Y breciau – os bydd y breciau’n methu gallai damwain ddifrifol ddigwydd.

    tractor with brakelights on

    Beth yw goblygiadau gwaith cynnal a chadw gwael?

    Lefelau hylif y system drawsyrru – os na fydd y rhain yn gywir gallai’r system dorri i lawr, a bydd yn gostus iawn i’w chywiro.

    person working on tractor engine in garage

    Beth yw goblygiadau gwaith cynnal a chadw gwael?

    Bydd y problemau hyn yn golygu na fyddwch yn gallu defnyddio’r tractor, ac fel arfer, wrth gwrs, byddant yn torri i lawr ar adeg brysur! Rhaid felly dilyn yr amserlen gynnal a chadw yn llawlyfr y gwneuthurwr.

    tractor in field

    Sesiwn 2


    Amserlen Gwasanaeth Nodweddiadol

    Amserlen Gwasanaeth Nodweddiadol – 10 awr (neu’n ddyddiol)

  • Gwiriwch lefel yr olew yn yr injan, ac ychwanegwch yr olew cywir os bydd angen
  • Gwiriwch y ffilteri aer os byddwch yn gweithio lle mae llawer o lwch
  • Edrychwch ar y teiars a gwiriwch y pwysedd aer
  • Gwiriwch lefel y dŵr yng ngolchwr y sgrin wynt
  • Gwiriwch y goleuadau a’r cyfeirwyr
  • Gwiriwch lefel y dŵr yn y rheiddiadur
  • engine oil level being topped up

    50 awr (neu’n wythnosol)

    Gwnewch y tasgau cynnal a chadw 10 awr a:

  • Gwiriwch lefelau’r olew yn y gerbocs a’r system drawsyrru, ac ychwanegwch olew os bydd angen
  • Irwch ferynnau’r olwynion, cysyllteddau’r cydiwr â’r breciau a blwch y cysylltedd hydrolig
  • Glanhewch y ffilter aer a ffilteri aer y cab
  • tractor engine being serviced

    50 awr (neu’n wythnosol)

  • Gwiriwch bwysedd aer y teiars, a newidiwch ef os bydd angen
  • Gwiriwch y batri a rhowch ddŵr distyll ynddo os bydd angen Sicrhewch fod terfynellau’r batri’n lân ac yn dynn
  • Gwnewch yn siŵr bod nytiau’r olwynion a bolltau yr echel flaen yn dynn
  • Ychwanegwch hylif i’r system lywio pŵeredig os bydd angen
  • person adjusting tyre pressure

    300 awr

    Gwnewch y tasgau cynnal a chadw 10 awr a 50 awr a:

  • Draeniwch yr olew o’r injan pan fydd hi’n dwym
  • Newidiwch elfen y ffilter, ac ail-lenwch y swmp ag olew ffres ​
  • Glanhewch anadlydd y crances
  • Gwiriwch lefel yr olew yn y blwch llywio, ac ychwanegwch olew os bydd angen
  • stock photo of engine

    300 awr

  • Os bydd gan y tractor gysylltedd cydiwr mecanyddol, gwnewch yn siŵr bod y pedal yn ymateb yn iawn
  • Gwiriwch y breciau, gan eu haddasu nhw os bydd angen
  • Draeniwch y dŵr sydd wedi casglu yn y trap yn y ffilter tanwydd diesel
  • Gwiriwch y tensiwn ar y ffanbelt
  • Gwnewch yn siŵr bod tu allan craidd y rheiddiadur yn lân. Defnyddiwch linell aer neu bibell ddŵr i gael gwared ag us (chaff) a llwch.
  • fan belt stock photo

    600 awr

    Yn ogystal â’r holl dasgau blaenorol:

  • Newidiwch elfen y ffilter tanwydd diesel, a gwaedwch y system
  • Trefnwch fod rhywun yn gwirio’r chwistrellwyr diesel, ac yn eu newid os bydd angen
  • Newidiwch yr olew yn y system drawsyrru
  • tractor being serviced

    Paratoi’r tractor a’r man gwaith ar gyfer gwaith cynnal a chadw

    Glanhewch y tractor gyda golchwr dŵr dan bwysedd. Gwnewch yn siŵr bod y golchwr wedi’i brofi ac yn ddiogel i’w ddefnyddio. Dylech wisgo dillad amddiffynnol - siwt ac esgidiau gwrth-ddŵr (gyda dur yn eu tu blaen nhw), mwgwd a sbectol ddiogelwch. Gallwch anadlu’r diferion mân o ddŵr i mewn, ynghyd â’r deunydd sy’n cael ei olchi i ffwrdd. Gallai gronynnau o faw gael eu golchi i’ch llygaid. Dylech wisgo menig er mwyn stopio halogyddion fel olew a gwêr rhag mynd i mewn i’ch corff.

    tractor being hosed down

    Paratoi’r tractor a’r man gwaith ar gyfer gwaith cynnal a chadw

    Rhaid i’r tractor beidio â symud yn ystod y gwaith cynnal a chadw.

  • Gwnewch yn siŵr bod y brêc llaw ymlaen a bod blociau dan yr olwynion.
  • Tynnwch allwedd y tractor allan.
  • Dylai’r man gwaith fod yn lân a heb unrhyw beryglon (e.e. olew wedi’i arllwys ar y llawr).
  • person using spanner on tractor wearing gloves

    Gweithio ar y Tractor

    Dylai fod o leiaf 2m o le, wedi’i neilltuo ar gyfer gwneud y gwaith yn ddiogel, o gwmpas y tractor.

  • Os bydd angen newid neu ddraenio unrhyw ireidiau (lubricants), cofiwch fod y rhain yn gallu bod yn beryglus yn y gweithdy.
  • Gwisgwch Gyfarpar Diogelu Personol (PPE), oferôl, esgidiau diogelwch, menig rwber ac ati.
  • person working on tractor

    Cemegion a Sylweddau Peryglus

    Trafod cemegion a sylweddau peryglus: storio a’u gwaredu nhw yn unol â’r Rheoliadau Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd (COSHH).

    Bydd angen i chi dalu sylw i’r pethau canlynol pan fyddwch yn defnyddio neu’n trafod cemegion neu sylweddau peryglus:

  • Y wybodaeth sydd gennych chi am y sylweddau peryglus.
  • Sut y gallan nhw effeithio arnoch chi.
  • A ydyn nhw’n fflamadwy / yn llidiog / yn wenwynig, ac ati?
  • stock photo of oil drops

    Taflen Data Diogelwch

    Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am unrhyw sylwedd o Daflen Data Diogelwch y sylwedd. Bydd hon yn nodi effeithiau halogiad gan y sylwedd, ac yn pwysleisio ystyriaethau amgylcheddol trafod arllwysiadau (spills) a gwaredu gwastraff.

    safety data sheet

    Sylweddau Fflamadwy

    Yn unol â rheoliadau COSHH dylid cadw pob sylwedd fflamadwy mewn cynwysyddion gwrthdan y gellir eu cloi, a gorau oll os bydd y rhain yn cael eu cadw y tu allan i’r gweithdy.

    stock photo of fire resistant cabinet

    Cemegion​

    Gallai rhai cemegion ymateb i newid yn y tymheredd, ac felly dylid cadw unrhyw gemegau dan glo mewn storfa gemegau sy’n cael ei hinsiwleiddio er mwyn ei chadw ar dymheredd cyson. Dylid cynllunio’r storfeydd er mwyn stopio unrhyw arllwysiadau rhag dianc i’r amgylchedd, a dylent fod yn cael eu hadeiladau o ddeunyddiau gwrthdan.

    warning signs: No unauthorised person beyond this point & Chemical store keep out

    Gwaredu deunyddiau gwastraff

    Er mwyn eu gwaredu, dylai unrhyw ddeunyddiau gwastraff fel cynwysyddion gwag, olew gwastraff neu ireidiau gael eu hanfon at gontractwr trwyddedig.

    waste material being disposed

    Gweithdrefnau cywir ar gyfer gwaith cynnal a chadw rheolaidd ac anrheolaidd

    Gall sylweddau fynd i mewn i’r corff mewn pedair prif ffordd

  • Llyncu
  • Drwy’u mewnanadlu trwy’r trwyn neu’r geg
  • Drwy’u hamsugno trwy’r croen neu drwy glwyfau agored
  • Wrth iddynt gyffwrdd â’r llygaid – yn uniongyrchol, neu drwy sychu’ch llygaid gyda llaw neu faneg frwnt
  • close up of a face

    Peryglon yn y Gweithle

    Pan fyddwch yn gweithio mewn gweithdy, byddwch yn dod i gysylltiad â deunyddiau a sylweddau a all effeithio ar eich iechyd a’ch diogelwch. Mae llawer o wahanol sylweddau’n cael eu defnyddio, a gall y rhain fynd i mewn i’ch corff mewn sawl gwahanol ffordd. Bydd angen gwahanol fathau o gyfarpar diogelu personol er mwyn lleihau’r peryglon hyn. Dylai’r asesiadau risg sydd wedi’u cynnal nodi’r anghenion.

    person working on engine

    Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ar gyfer mecaneg tractor

    Esgidiau gyda dur yn eu tu blaen – er mwyn amddiffyn eich traed rhag unrhyw beth trwm a allai syrthio arnynt. Dylai fod ganddynt afael da er mwyn eich helpu i beidio â llithro neu gwympo.

    steel toe-capped boots

    Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ar gyfer mecaneg tractor

    Oferôls

    Er mwyn amddiffyn eich dillad eich hunan rhag cael eu baeddu gan olew, glanedyddion, teneuwyr, paent a llwch. Dylech eu tynnu i ffwrdd wrth adael y gweithdy, a dylech gael pâr glân y tro nesaf.

    person working on engine

    Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ar gyfer mecaneg tractor

    Amddiffynwyr Clustiau

    Rhag i sŵn uchel injan tractor neu beiriannau eraill niweidio’ch clyw.

    person wearing ear defenders and gloves

    Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ar gyfer mecaneg tractor

    Anadlyddion (respirators) - gallai fod angen y rhain pan fydd llawer o lwch yn yr aer, e.e. pan fyddwch yn glanhau llwch o beiriannau, neu’n gweithio ar gombein neu fyrnwr gwair. Gallai fod angen i chi ddefnyddio anadlyddion os byddwch mewn man heb ddigon o awyriad, ac yn gorfod gweithio gyda sylweddau sy’n rhyddhau mygdarthau (fumes).

    person welding causing sparks

    Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ar gyfer mecaneg tractor

    Dylech wisgo menig pan fyddwch yn trafod sylweddau fel olew, petrol, diesel, ireidiau a llawer o sylweddau eraill, er mwyn sicrhau na fydd y sylweddau hyn yn mynd i mewn i’ch corff trwy’ch croen. Bydd angen menig arbennig ar gyfer gwaith poeth fel weldio neu sodro.

    person welding causing sparks

    Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ar gyfer mecaneg tractor

    Dylech wisgo sbectol ddiogelwch er mwyn amddiffyn eich llygaid rhag llwch pan fyddwch yn gweithio ar, neu o dan, beiriannau, neu’n defnyddio unrhyw beiriant llifanu (grinder) neu ddril. Bydd angen tarian wyneb er mwyn amddiffyn eich llygaid rhag golau cryf iawn a gwreichion pan fyddwch yn weldio.

    person holding safety goggles

    Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ar gyfer mecaneg tractor

    Cyfrifoldeb eich cyflogwr yw rhoi PPE addas i chi, a rhoi hyfforddiant i chi ar sut i’w ddefnyddio. Eich cyfrifoldeb chi fydd ei ddefnyddio’n gywir.

    person holding spanner behind their back

    Sesiwn 3


    Storio offer a defnyddiau ar ôl eu defnyddio

    Storio offer a defnyddiau ar ôl eu defnyddio​

    Cofiwch roi deunyddiau ac offer i ffwrdd bob tro ar ôl eu defnyddio. Peidiwch byth â gadael:

  • Offer trydanol gyda’r plwg yn dal yn y soced
  • Lidiau trydan ar hyd y llawr neu’r fainc waith
  • Offer llaw ar lawr y gweithdy neu ar lawr cab y tractor
  • Arllwysiadau ar y llawr
  • stock photo of oil being spilled

    Storio Offer

  • Dylid rhoi pob offeryn llaw yn ôl yn y blwch offer, neu yn ôl ar silffoedd neu ar reseli offer.
  • Ar ôl eu defnyddio dylech chwilio am unrhyw ddifrod i offer llaw, cyn eu rhoi nhw yn ôl ar y fainc waith neu ar y silff.
  • Rhaid cadw popeth y byddwch wedi’i ddefnyddio, fel darnau neu ireidiau, mewn storfa bwrpasol.
  • stock photo of tools

    Cynllun Gweithdy

    textbook photo of typical workshop

    Bwrdd Cysgodion

    shadow board image

    Offer Trefnus

    image of tools stored tidily

    Storfa Offer Effeithiol

    Good Storage Facility