Mae'r adnodd hwn yn addas i gefnogi cyrsiau Amaethyddiaeth Lefel 2.
Mae’r adran ar Iechyd a Diogelwch cyffredinol wrth weithio gyda tractorau a pheiriannau yn cynnwys gwybodaeth ar y canlynol:
Rhaid dilyn canllawiau dulliau gwaith diogel sy’n cydymffurfio â’r codau ymarfer sydd ar gael a’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol.
Mae pob cod ymarfer yn nodi arferion da sy’n arddel dulliau gwaith diogel sy’n lleihau’r perygl o ddamweiniau neu ddifrod.
Rhaid cofio am y canlynol pan fyddwch yn defnyddio tractorau ac atodion:
Wrth ddefnyddio tractorau ac atodion dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol:
Wrth ddefnyddio tractorau ac atodion dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol:
Digwyddiadau – lle mae rhywbeth sydd â’r potensial i achosi niwed i chi neu i eraill, neu ddifrod i ddeunyddiau neu gyfarpar, wedi digwydd, dylech hysbysu eich goruchwyliwr amdano a chofnodi’r digwyddiad ar ffurflen bwrpasol. Weithiau dywedir fod rhywbeth o fin trwch blewyn i ddigwydd neu mai cael a chael oedd hi. Rhaid cofnodi pob digwyddiad er mwyn helpu sicrhau na fydd yr un peth yn digwydd eto, ac er mwyn osgoi’r posibilrwydd o ddamwain.
Damweiniau - yn ôl y gyfraith, rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr am bob damwain, a rhaid iddo yntau gofnodi’r ddamwain mewn Llyfr Damweiniau pwrpasol. Bydd rhaid hysbysu’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) am rai mathau o ddamweiniau yn ôl gofynion y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR). Cyfrifoldeb eich cyflogwr fydd gwneud hynny.
Cymorth Cyntaf - rhaid i’ch cyflogwr sicrhau bod darpariaeth ddigonol o offer cymorth cyntaf, sy’n addas ar gyfer y math o waith a wneir ar y fferm, wrth law. Dylech gael gwybod pwy i gysylltu â nhw os byddwch yn sâl neu’n cael niwed, a lle mae’r blwch Cymorth Cyntaf - gallech gael eich anfon i’w nôl. Os nad oes gan neb ar y fferm brofiad Cymorth Cyntaf, dylech gael gwybod pwy i gysylltu â nhw / eu ffonio mewn argyfwng, a beth y dylech ei wneud.
Bydd cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yn dangos sut yn union y dylech chi ddefnyddio’u hoffer mewn ffordd ddiogel ac effeithlon. Bydd y cyfarwyddiadau’n nodi’r gwaith cynnal a chadw y bydd angen ei wneud, a phryd y bydd angen ei wneud. Bydd yn rhoi manylion yr offer rheoli, sut i ddefnyddio’r offer, a beth y gallai ei wneud.
Mae’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith yn ddeddf bwysig sydd yn rhan annatod o gyfrifoldebau cyfreithiol:
Nodau:
Mewn geiriau syml, rhaid i gyflogwyr wneud y canlynol:
Mae datganiad o bolisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â diogelwch ar y fferm yn dilyn. Mae’n cynnwys y gofyniad eich bod chi wedi derbyn hyfforddiant am ddulliau defnyddio’r peiriannau’n ddiogel.
Os oes perygl gwirioneddol o anaf neu afiechyd yn deillio o ryw weithgaredd yn y gwaith, cyfrifoldeb eich cyflogwr fydd sicrhau bod asesiadau risg addas a digonol wedi’u cynnal. Os oes mwy na 5 o weithwyr, rhaid cofnodi prif ganfyddiadau’r asesiad.
Os yw’ch cyflogwr wrthi’n cynhyrchu’r asesiadau risg, yna dylech chi gymryd rhan yn y broses. Os yw’r asesiadau risg wedi’u cyhoeddi, rhaid i chi gael gwybod am hyn, ac mae angen i’ch cyflogwr esbonio’r asesiad i chi, a thynnu’ch sylw at y peryglon, y risgiau a’r mesurau rheoli y bydd angen i chi eu dilyn er mwyn lleihau’r perygl i chi ac i eraill.
Mae PUWER 98 yn un o’r rheoliadau mwyaf pwysig sy’n ymwneud a cherbydau a pheiriannau fferm.
Yn gyffredinol, mae’r rheoliadau hyn yn gorfodi perchennog unrhyw offer a ddarperir i chi yn y gwaith i sicrhau:
Yn fras, ar gyfer tractorau dylid:
Yn gyffredinol, mae LOLER yn nodi’r rheidrwydd i unrhyw offer codi a ddefnyddir yn y gwaith ar gyfer codi neu ostwng llwythi: